Tiaras a thaith i Texas: Chwiorydd y sioeau harddwch
- Cyhoeddwyd
Fis Mehefin, bydd Efa-Hâf o Gaernarfon yn mynd i Texas yn yr UDA i gystadlu am deitl Young Miss International, wedi iddi ennill ei chategori mewn pasiant Ewropeaidd fis Tachwedd 2018.
Mae'r ferch naw oed a'i chwaer, Erin, sy'n 11, yn hen lawiau ar gystadlu a gwenu mewn ffrogiau crand a tiaras - mae Erin newydd ennill teitl Miss Charity mewn pasiant o'r enw Face of Europe and the World.
Ond maen nhw hefyd yn giamstars ar carate a martial arts a'r un mor gyfforddus mewn iwnifform carate a menyg bocsio.
Mae eu mam, Gemma, a'u tad, Chris, yn rhedeg busnes dysgu martial arts a ffitrwydd yng Nghaernarfon.
Dydi hi'n fawr o syndod felly fod y ddwy wedi ennill eu beltiau du mewn carate yn barod.
Mae'n chwaraeon sydd â delwedd wahanol iawn i sioeau harddwch felly, fel rhiant, beth sy'n apelio am annog y merched i gymryd rhan mewn cystadlaethau o'r fath?
Hyder nid harddwch
Yn ôl Gemma Pritchard mae'r hen syniad o basiant harddwch wedi newid, a'r pwyslais rŵan ar hyder, cyfrannu i'r gymuned a helpu elusennau.
"Fysa rhai pobl yn dal i'w galw nhw'n beauty pageants ond charity pageants ydyn nhw - dydyn nhw ddim yn cael eu marcio ar 'hi di'r ddela', 'hi di'r lleia del'," meddai.
"Ugain y cant o'r sgorio sy'n mynd ar y stage work ac mae'r stage work yn cael ei farcio ar confidence: sut maen nhw'n cerdded, sut maen nhw'n cyflwyno eu hunain yn be' ma' nhw'n wisgo.
"Wedyn mae'r 80% o'r sgorio am y cyflwyniad, eu personoliaeth nhw a'r gwaith maen nhw wedi'i wneud yn y gymuned. Maen nhw'n gorfod helpu efo campaigns a hel pres i wahanol elusennau."
Maen nhw'n gorfod cyflwyno llyfr o'r gwaith cymunedol maen nhw wedi ei wneud, cael sesiwn cwestiwn ac ateb ar y llwyfan a chyfweliad preifat o flaen chwech beirniad.
Dros dair blynedd a hanner, mae'r ddwy wedi codi dros £30,000 tuag at wahanol elusennau.
'Paratoi at fywyd'
Mae Gemma yn gweld y profiadau mae'r merched wedi eu cael fel rhai fydd yn eu helpu i fod yn hyderus mewn bywyd, rhywbeth mae'n teimlo ei bod hi wedi colli allan arno.
"Mae Efa wedi gwneud cyflwyniad am ei hun a'i gweithgareddau hi o flaen 1,300 o bobl ... so mae wedi dangos iddi hi'n barod sut i wneud public speaking," meddai.
"...dwi'n ei weld o fel prepario nhw'n barod am job interviews pan maen nhw'n hŷn.
"Dyna pam dwi'n cario 'mlaen achos nes i beidio mynd i'r brifysgol achos oni ddim yn licio public speaking," meddai Gemma oedd eisiau astudio busnes pan adawodd yr ysgol.
"Ac oni'n gwybod y baswn i wedi gorfod gwneud presentations fel rhan o'r cwrs so nes i beidio mynd i'r brifysgol am y rheswm yna.
"Oni ddim isho iddyn nhw endio fyny 'run peth â fi.
"Ond dwi wedi gweld yr hyder ynddyn nhw. Y social skills sydd gynnyn nhw yn eu hoed nhw... dwi'n meddwl bod o'n wych.
Aeth Gemma i weithio yn lle mynd ymlaen i addysg uwch ond erbyn hyn mae wedi llwyddo i wireddu ei breuddwyd o redeg busnes, gyda help ac anogaeth ei gŵr Chris, sydd ei hun wedi gwireddu ei freuddwyd o wneud bywoliaeth allan o'i ddiddordeb mewn carate, cicbocsio a ju jitsu.
"'Dan ni isho dod â'r gorau allan o'r plant i fod yn ffeind, i fod yn garedig wrth bobl eraill ac i allu helpu eraill, peidio bod ofn, bod yn hyderus a'r gorau fedran nhw," meddai Gemma.
"Ac efo mynd rownd i'r gwahanol lefydd maen nhw wedi bod, mynd i eistedd a siarad efo'r henoed a'r ffaith bod nhw'n enjoio neud o - y sosial aspect o be maen nhw'n gael allan ohono fo - mae'n briliant."
Gwenu ydy'r peth pwysica' i'w wneud ar y llwyfan meddai Efa-Hâf ond mae Erin yn rhybuddio i beidio byth â rhoi gwên ffug, dydi hynny byth yn gweithio!
Ers ennill Face of Wales yn 2015, mae Efa-Hâf wedi dod yn bedwerydd yn Face of the Globe 2016 ac ennill Mini Miss European Wales 2016 a Mini Miss European 2016-2017, gyda'r cystadlu wedi mynd â hi i Lundain, Paris a Malta, a rŵan Texas.
Erin oedd Face of Wales 2016 a Face of Crown & Glory 2017-2018. Daeth yn ail yn Face of Europe and the World yn 2018 gan ennill y teitl Miss Charity.
"'Dan ni wedi gwneud ffrindiau o lefydd eraill ac mae'n help i wneud inni deimlo'n confident a bod ar y stêj," meddai Erin.
"Mae wedi dysgu ni i beidio bod yn spoilt hefyd," meddai Efa-Hâf.
I helpu gwahanol elusennau lleol a thramor maen nhw wedi hel arian mewn pob math o ffyrdd: cerdded i ben y Wyddfa, pacio bagiau mewn archfarchnadoedd, helpu i drefnu pasiantau elusen i bobl eraill a gwneud sêl cist car.
Felly ar ôl yr holl brofiad yma, beth mae'n nhw eisiau ei wneud yn y dyfodol?
"Dwi eisiau bod yn ddoctor," meddai Erin yn hyderus.
Dydi Efa-Hâf ddim mor siŵr eto ond byddai bod yn Miss Wales ac wedyn Miss World yn ddechrau, meddai...
Hefyd o ddiddordeb: