Troi hen doiledau yn ganolfan i'r henoed
- Cyhoeddwyd
Mae adeilad toiledau ger castell Llandaf sydd wedi bod yn segur ers tro i gael ei addasu'n ganolfan i'r henoed ar ôl cymhorthdal o £200,000 gan Lywodraeth Cymru.
Fe fydd y safle ar ei newyddwedd hefyd yn cynnwys canolfan gwybodaeth treftadaeth a thŷ bach gyda mynediad i bobl anabl.
Cafodd y toiledau ynghyd â safle cadw gwartheg o'r canol oesoedd eu trosglwyddo o ofal Cyngor Caerdydd i grŵp Cymunedol Llandaf 50+.
Dywedodd y Farwnes Ilora Finlay, noddwr Llandaf 50+, y bydd y datblygiad yn hwb i'r gymuned leol.
"Fe fydd yr adnodd yn help i'r gymuned ddod at ei gilydd, i ddysgu oddi wrth ein gilydd ac i rannau talentau.
"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous yng nghanol Llandaf a fydd yn berffaith ar gyfer grwpiau bach o bob oedran i rannu talentau ac i fwynhau bod yng nghwmni ei gilydd."
Un arall sydd yng nghlwm â'r cynllun yw curadur Castell Caerdydd Matthew Williams.
Mae e'n gobeithio byd y ganolfan yn annog pobl i ddod i wybod mwy am dreftadaeth yr ardal.
Cafodd yr adeilad ar gyfer y toiledau ei godi yn 1924 ac mae drws nesa i Gastell yr Esgob sy'n dyddio nôl i'r drydedd ganrif ar ddeg, ac o fewn tafliad cared i Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Gobaith y rhai tu cefn i'r cynllun yw y bydd yn agor ar ei newydd wedd erbyn 2020.