Uwch Gynghrair Lloegr: Southampton 1-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Sol Bamba sgoriodd gôl gyntaf CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sol Bamba sgoriodd gôl gyntaf Caerdydd

Kenneth Zohore oedd arwr Caerdydd wrth iddo sgorio gôl ar ddiwedd y gêm yn erbyn Southampton a hynny bron yn syth ar ôl iddi ymddangos fod Jack Stephens wedi achub pwynt i'r tîm cartref.

Golygai'r canlyniad bod Caerdydd yn camu uwchben Southampton ac allan o'r tri safle ar waelod yr Uwch Gynghrair.

Daeth gôl Zohore ar ôl pedwar munud o'r amser sy'n cael ei ychwanegu ar gyfer anafiadau, gan sicrhau buddugoliaeth oddi cartref gwerthfawr i Gaerdydd.

Roedd hi'n edrych fel bod Stephens wedi achub pwynt i Southampton cyn hynny, wrth iddo fanteisio ar bas Charlie Austin i ergydio heibio Neil Etheridge yn y gôl.

Sol Bamba sgoriodd gôl gyntaf y gêm - ei ergyd yr un cyntaf oedd ar darged o ran cyfleoedd i'r ymwelwyr .

Golygai'r tri phwynt fod Caerdydd yn symud i safle 15 yn yr Uwch Gynghrair.