Côr Meibion Llangollen yn wynebu dod i ben wedi 40 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n ddiwedd cyfnod i un o gorau meibion y gogledd gan nad oes gan Gôr Meibion Llangollen ddigon o aelodau i barhau.
Maen nhw wedi apelio am leisiau newydd ond ofer yw'r ymdrechion wedi bod.
Ar ei anterth roedd 'na 36 o aelodau yn perthyn i'r côr ond yn eu hymarfer yr wythnos ddiwethaf dim ond naw ohonyn nhw oedd yn bresennol ac roedd hynny'n cynnwys yr arweinydd a'r cyfeilydd.
Cafodd y côr ei ffurfio yn 1981 ac mae wedi perfformio yn yr Albert Hall a mannau eraill ar draws y byd.
'Digalon'
Dywedodd cadeirydd y côr, David Smith ei bod wedi bod yn amhosib denu aelodau newydd - yn enwedig aelodau iau.
Bellach dim ond dau o'r aelodau sy'n byw yn Llangollen - mae eraill yn teithio o ardaloedd Conwy a Glannau Mersi - nid yn unig i ganu ond hefyd er mwyn cadw'r Gymraeg yn fyw.
Mae Evan Williams o'r Bala wedi bod yn mynd i'r ymarferion ers dros chwarter canrif.
Dywedodd wrth gael ei holi ar ddiwedd yr ymarfer posib olaf: "Dwi'n hoffi dod i'r côr - ar un adeg roeddwn yn dod bob nos Lun a nos Wener.
"Dwi hefyd yn mynd i ymarfer côr Y Glyn [Ceiriog] ar nos Fercher - ac felly dwi wedi bod yn brysur iawn rhwng y ddau gôr.
"Mae'n sefyllfa hynod o ddigalon - 'da ni'n colli pobl o hyd - marw mae'r rhan fwyaf ac eraill bellach yn methu dod."
Llai o ymarferion?
Un arall sy'n canu yn y côr yw Merfyn Salisbury sy'n teithio o Congleton yn Sir Caer.
Dywedodd ei fod wedi mwynhau'r profiadau gyda'r côr yn fawr iawn a bod hi'n drist os yw'r côr yn dod i ben gan ei fod wedi bod yn gôr llwyddiannus yn ei ddydd.
Mae Matthias Wurz, cyfarwyddwr Cantorion Rhos sydd yn ymarfer yn Wrecsam, yn awyddus i gadw enw Côr Llangollen ac un ystyriaeth yw ymarfer bob rhyw dair wythnos er mwyn gwneud hi'n haws i aelodau ac o bosib yn haws i ddenu aelodau newydd.
Dywedodd: "Fy ngobaith yw y bydd y côr yn parhau rhywsut. Bydd yn siom os bydd Côr Meibion Llangollen yn dod i ben."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2017