Cytundeb amddiffyn enfawr i'r gogledd-ddwyrain

  • Cyhoeddwyd
F-35 fighter planeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r F35 yn rhan allweddol o awyrlu yr Unol Daleithiau

Mae canolfan awyrennau'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sealand wedi ennill rhan helaeth o gytundeb £500m i gynnal a chadw awyrennau.

Bydd y ganolfan yn Sir y Fflint yn gofalu am gannoedd o awyrennau F-35 llu awyr yr Unol Daleithiau.

Bydd y ganolfan yn darparu gwasanaethau uwchraddio trydanol yn ogystal â cynnal a chadw yr awyrennau rhyfel.

Cyhoeddwyd y buddsoddiad gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn Gavin Williamson: "Mae hyn yn cadw Prydain yng nghanol y bartneriaeth F35, y rhaglen amddiffyn fwyaf erioed," meddai.

"Mae'n arwydd o'r hyder yn sgiliau arbennig y gweithlu a'r diwydiant technoleg uwch sydd yn darparu Prydain a'i chynghreiriaid â'r gorau o'r hyn sydd gan beirianneg Prydain ei gynnig."

Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn bydd y cytundeb yn sicrhau bod gogledd Cymru yn allweddol i'r gwaith ar gyfer awyrennau F-35 am 40 mlynedd, a bydd hyn yn cefnogi cannoedd o swyddi technoleg uwch ym Mhrydain.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns: "Rydw i wrth fy modd bod sgiliau ein gweithlu yn cael eu cydnabod gyda'r buddsoddiad pellach yma yn economi'r gogledd-ddwyrain.

"Bydd hyn yn parhau i ddarparu swyddi a thwf economaidd yn blynyddoedd i ddod."

Hyd yma 'dyw'r Weinyddiaeth Amddiffyn heb ddatgelu faint o swyddi yn union fydd yn cael eu creu a'u diogelu, ond bydd rhan helaeth o'r gwaith yn cael ei ddarparu gan y gweithlu yn Sealand.