Gadawyr gofal i gael eu heithrio rhag talu treth cyngor

  • Cyhoeddwyd
Treth

Ni fydd pobl ifanc sy'n gadael y system gofal yng Nghymru yn gorfod talu treth y cyngor o fis Ebrill ymlaen, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae saith o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru eisoes yn gwneud hynny - rhai nes eu bod yn 21 oed ac eraill hyd at 25 oed.

Roedd elusennau wedi galw ar weinidogion i gael gwared ar yr "anghysondeb" ynglŷn â'r system.

Bydd pob person dan 25 sy'n gadael y system gofal nawr wedi'u heithrio rhag talu treth y cyngor.

'Byw'n annibynnol'

Daw yn dilyn ymgynghoriad gyda chynghorau, sefydliadau gwirfoddol, trethdalwyr a phobl ifanc sy'n gadael gofal.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans ei bod eisiau i Lywodraeth Cymru a chynghorau "wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal a'u cynorthwyo wrth iddynt dyfu'n oedolion a byw'n annibynnol".

"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn gam cadarnhaol arall yn ein hadduned i wneud y dreth cyngor yn decach, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad," meddai.

Bydd y rheoliadau yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad ddechrau mis Mawrth.