Angen diwedd 'anghysondeb' treth cyngor i adawyr gofal

  • Cyhoeddwyd
Treth

Mae elusennau sy'n cefnogi plant sy'n gadael y system ofal wedi galw ar weinidogion i roi'r gorau i'r anghysondeb sy'n bodoli mewn talu treth y cyngor neu beidio.

O ddechrau Ebrill mae chwech o'r 22 awdurdod lleol wedi eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth, tan eu bod yn 21 neu'n 25 oed.

Ond mae elusennau, gan gynnwys The Children's Society a Voices From Care Cymru, yn dweud y dylai gael ei gyflwyno ym mhobman.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, y cynghorau unigol ddylai wneud penderfyniad ar y mater.

16,000 mewn gofal

Yng Nghymru mae tua 16,000 o blant mewn gofal yn ôl cyfrifiad y llynedd, ac mae gan gynghorau ddyletswydd gofal tuag atynt.

Yn Yr Alban dyw'r rhai sy'n gadael gofal ddim yn talu treth y cyngor ac mae elusennau'n galw ar weinidogion Cymru i wneud yr un peth.

Eu dadl yw y byddai'n rhoi'r diwedd ar ddryswch ac yn sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal, dim ots lle maen nhw'n byw.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae elusennau'n dweud y byddai eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag talu treth cyngor yn rhoi help llaw iddynt

Byddai'n rhoi help llaw i'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas meddai The Children's Society, sydd wedi bod yn trafod y mater gydag ACau.

"Rydyn ni'n gwybod bod nifer o'r rhai sy'n gadael y system ofal yn byw ar ben eu hunain pan yn 18 oed, sy'n wahanol iawn i nifer o bobl ifanc eraill," meddai Sarah Wayman, rheolwr ymgyrchoedd lleol.

"Mae bod â dyledion yn gysgod trosoch yn gallu arwain at y beilïaid ac achos llys, sy'n gallu dod yn sefyllfa gythryblus i berson ifanc sydd heb gefnogaeth."

Ychwanegodd bod tua 70 o gynghorau'n Lloegr wedi cyflwyno eithriadau.

Hyd yn hyn mae chwe awdurdod lleol wnaeth ymateb i gais gwybodaeth BBC Cymru wedi dweud na fyddan nhw yn codi treth y cyngor ar y rhai sy'n gadael gofal:

  • Bydd Ynys Môn yn eithrio tan eu bod yn 21 oed;

  • Mae Torfaen yn gwneud yr un peth ond gydag opsiwn i ymestyn tan 25;

  • Mae Caerdydd, Caerffili, Sir Gâr a Rhondda Cynon Taf wedi eithrio tan eu bod yn 25.

Dywedodd rhai cynghorau eraill, gan gynnwys Bro Morgannwg a Cheredigion y bydd y cabinet yn trafod y mater yn y dyfodol agos tra bod eraill yn dweud na fyddan nhw'n cyflwyno'r polisi.

Mae Christopher Dunn o Voices From Care Cymru yn dweud eu bod yn bwriadu ysgrifennu at holl arweinwyr cynghorau.

"Sut wnaiff hyn weithio'n ymarferol heb eithriadau ar draws Cymru? Os yw person sy'n gadael gofal o Gaerdydd yn symud i Ben-y-bont fyddan nhw yn dal i gael eu heithrio?

"Mae'n gymysglyd iawn a dwi'n siŵr y cawn ni bobl ifanc yn cysylltu gyda ni yn gofyn am gymorth pan mae'n dechrau cael ei weithredu."

Baich arall

Yn ddiweddar mae Barnardo's Cymru wedi cyflwyno adroddiad i weinidogion yn gofyn iddyn nhw gefnogi pobl sy'n gadael gofal tan eu bod yn 25.

Mae'r cyfarwyddwr, Sarah Crawley yn dweud bod pobl ifanc yn aml yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith, cyfleoedd hyfforddi a llety o ansawdd ac nad yw hi'n deg eu lleddfu gyda threth cyngor hefyd.

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland hefyd yn cefnogi galwadau'r elusennau.

Gofyn am 'eglurder'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymroddedig i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal.

"Mae rheoliadau yn eu lle sy'n galluogi awdurdodau lleol i eithrio'r rhai sy'n gadael gofal rhag talu treth cyngor. Mae'r penderfyniad i wneud hyn yn fater i bob awdurdod lleol," meddai'r llefarydd.

"Rydyn ni'n blês bod nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru yn barod wedi cytuno i eithrio'r rhai sy'n gadael gofal rhag talu treth cyngor.

"Rydyn ni'n parhau i drafod gyda CLlLC ar y mater ac fe fyddwn ni yn gofyn am eglurder ganddyn nhw ynglŷn â beth mae'r awdurdodau lleol eraill yn bwriadu gwneud."