Y Cymro sy'n 'gyfrifol' am 'Swing Low'

  • Cyhoeddwyd

Bydd un Cymro'n teimlo hyd yn oed yn waeth na phawb arall os fydd Swing Low, Sweet Chariot yn cael ei chlywed ddydd Sadwrn - gan ei fod yn rhannol gyfrifol am greu anthem rygbi'r Saeson.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Un o Lanfihangel Talyllyn, ger Aberhonddu, ydi Charles Cravos ond yn yr 1950au roedd yn ddisgybl 11 oed mewn ysgol breswyl Babyddol ger Reading.

Ac mae disgyblion yr ysgol honno yn ne Ddwyrain Lloegr wedi cael y clod - neu'r bai - am gyflwyno'r gân i ffyddloniaid Twickenham.

Erbyn hyn, fel Cwm Rhondda neu Sosban Fach i'r Cymry, mae cefnogwyr tîm rygbi Lloegr wedi mabwysiadu Swing Low fel anthem eu tîm nhw.

Un o ganeuon 'nonsens' ysgol fonedd

Dywedodd Charles Cravos: "Ysgol rygbi oedd Douai, yn fy marn i ysgol eithaf rough o safbwynt y gêm.

"Roedde ni'n 'ware rygbi er mwyn ennill, dim er mwyn bod yn gymdeithasol o gwbl.

"Un peth oedde ni'n wneud pan oedde ni'n 'ware bant, bob yn ail wythnos, yn y bws roedde ni'n canu yr hen nonsens arferol fel Waltzing Matilda, She'll be Coming Round the Mountain a phethau tebyg.

"Roedd un wedyn, pan doedd neb yn gwybod beth i ganu ac wedi rhedeg mas o ganeuon doniol neu insulting i'r opposition roedde ni'n canu bron iawn fel chant yr ysgol - Swing Low, Sweet Chariot. Jest nonsense song oedd e."

Byddai rhai cefnogwyr Cymru yn siŵr o gytuno, ac yn gobeithio na fyddant yn ei chlywed yn Stadiwm Principality yn ystod gêm fawr ddydd Sadwrn.

Ond os maen nhw, bydd Charles Cravos yn cofio nôl i'w gyfnod yn ei chyflwyno i Twickenham gyda'i gyfoedion o ysgol Douai.

Disgrifiad o’r llun,

Charles Cravos

Meddai: "Un peth oedd yr ysgol yn ei wneud oedd cludo ni lan i gêm Varsity Rhydychen yn erbyn Caergrawnt, bob blwyddyn yn Twickenham.

"Amser hynny roedd yn rhywbeth reit gymdeithasol, a dechreuodd crwts Douai oedd yn y gêm ganu Swing Low, Sweet Chariot, a dyna shwt dechreuodd tîm Lloegr gael cefnogaeth y gân wedyn fi'n deall."

Canu'r gân am y tro cyntaf mewn gêm Lloegr

Yn ôl pob sôn, yn eu gêm yn erbyn y Gwyddelod yn Twickenham ddigwyddodd hynny flynyddoedd wedyn yn 1988.

Roedd tîm Lloegr ar rediad gwael iawn a heb sgorio cais ers dwy flynedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd rhai yn y dorf ganu'r gân am y tro cyntaf ar ôl i Chris Oti sgorio cais yn erbyn y Gwyddelod yn 1988

Ond pan sgoriodd Chris Oti gais yn yr ail hanner - y gyntaf o chwech i'r Saeson yn ystod gêm Pencampwriaeth y Pum Gwlad honno - fe ddechreuodd rhai yn y dorf ganu'r gân.

Dros y blynyddoedd, disgyblion ysgol Douai yn y dorf sydd wedi cael y clod am ddechrau canu'r gân - a throi traddodiad ysgol i fod yn un cenedlaethol.

Ond yn ddiweddar, mae aelodau o glwb rygbi Market Bosworth wedi honni mai nhw ddechreuodd ganu'r gân yn yr un gêm.

Ac nid dyna'r unig ddadlau ynghlwm â Swing Low chwaith gan fod rhai wedi cwestiynu ei defnydd o gwbl mewn gêm rygbi oherwydd ei tharddiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwreiddiau'r gân yn hanes camdriniaeth o gaethweision gan eu perchnogion yn yr Unol Daleithiau

Fe gafodd ei chyfansoddi tua 1865 yn yr Unol Daleithiau gan Wallace Willis, caethwas oedd wedi ei ryddhau. Mae'r geiriau yn cael eu canu gan gaethwas sydd am i farwolaeth ei achub rhag ei feistr brwnt.

Mae artistiaid fel Louis Armstrong, Paul Robeson a Joan Baez wedi ei pherfformio a daeth yn un o anthemau'r frwydr hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau yn yr 1960au.

Ddegawd ynghynt, doedd gan Charles Cravos ddim syniad y byddai'n datblygu yn y pen draw i fod yn anthem chwaraeon.

"Na, dim o gwbl - i ni roedd e'n nonsense song a dwi ddim yn bod yn gas, wi ddim yn bod yn lletwith roedd e jest yn damed bach o nonsens - jest crwts yn canu."

Felly fydd o'n cael ei demtio i ddechrau ei chanu eto yn ystod y gêm yn erbyn y Saeson ddydd Sadwrn?

"Dim peryg, dim peryg... dwi ddim wedi canu fe ers gadael ysgol."

Hefyd o ddiddordeb: