Ein hanthem genedlaethol mewn 200 gair
- Cyhoeddwyd
![Anthem genedlaethol mewn gêm rygbi](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D09A/production/_99920435_gettyimages-913707328.jpg)
Roedd Hen Wlad Fy Nhadau a God Save The Queen yn cael eu chwarae cyn bob gêm ryngwladol bêl-droed a rygbi yng Nghymru hyd at ganol yr 1970au
Mae'r rhan fwyaf ohonom ni'n gwybod y geiriau - ond beth ydyn ni wir yn ei wybod am Hen Wlad Fy Nhadau?
Dyma geisio ateb yr her mewn 200 gair...
Pryd gafodd hi ei chyfansoddi a gan bwy?
Ym Mhontypridd yn 1856, er mai enw gwreiddiol yr emyn dôn oedd Glan Rhondda.
Evan James ysgrifennodd y geiriau a'i fab, James James, gyfansoddodd yr alaw.
Pryd gafodd hi ei pherfformio gyntaf?
Ym Maesteg yn 1856 gan ferch 16 oed o Bontypridd o'r enw Elisabeth John.
Cafodd hi ei recordio'n gyntaf gan Madge Breese a chwmni Gramophone yn Llundain yn 1899.
Ei chysylltiad â'r meysydd chwarae?
Mae'n debyg fod tîm a chefnogwyr rygbi Cymru wedi canu Hen Wlad Fy Nhadau cyn wynebu Seland Newydd yn 1905 mewn ymateb i'r haka.
Dyma'r tro cyntaf erioed i anthem genedlaethol gael ei chanu cyn digwyddiad chwaraeon.
![Geiriau'r anthem](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/8A93/production/_99557453_c0f9c02e5262c3ab3e7349547d5d562d24b9efac.jpg)
Mae tair pennill ac un gytgan i Hen Wlad Fy Nhadau
Beth ydy'r neges?
Mae rhai yn honni mai cri ydy'r gân i frawd Evan James sydd wedi gadael Cymru am fywyd gwell yn America.
Mae'n atgoffa ei frawd o bwysigrwydd yr iaith i wlad falch sy'n enwog am ei chantorion, beirdd a'i rhyfelwyr gwladgarol.
Tra môr yn fur, i'r bur hoff bau?!
O bosib llinell fwyaf cymhleth yr anthem.
Mae'r môr yn wal, yn fur (treiglad o 'mur') i'r wlad bur (treiglad o 'pur') honno yr ydym ni mor hoff ohoni.
Yr hen air sy'n cael ei ddefnyddio yma am 'gwlad' ydy 'pau' (sy'n treiglo i 'bau').
Y cyfieithiad Saesneg ydy: "As long as the sea serves as a wall for this pure, dear land".
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
Hefyd o ddiddordeb
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)