Galw ar gwmnïau i wirio oedran plant i atal hunan-anafu

  • Cyhoeddwyd
Merch ifanc yn edrych ar ffôn

Mae angen i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol gryfhau systemau gwirio oedran a dileu cynnwys niweidiol i geisio atal plant rhag anafu eu hunain, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Dywed Sally Holland bod sefyllfa gwefannau fel Facebook a Snapchat yn debyg i'r "Gorllewin Gwyllt" oherwydd y diffyg rheolau sy'n berthnasol i'r cyfryngau traddodiadol, a bod rhieni ac athrawon yn cael trafferth sicrhau eu bod â'r wybodaeth ddiweddaraf.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth cwmni Instagram gyhoeddi eu bod am ddileu delweddau o hunan-anafu o'r wefan, mewn ymateb i farwolaeth Molly Russell - merch 14 oed o Loegr oedd wedi gweld delweddau o'r fath ar y wefan yn y cyfnod cyn iddi ladd ei hun yn 2017.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cymryd camau i warchod unigolion bregus, a bod y cyfryngau cymdeithasol â'r potensial i fod o les ac i achosi niwed.

Mae ymchwil rhaglen Wales Live yn dangos bod dros 1,000 o bobl ifanc wedi cael triniaeth ysbyty yng Nghymru yn 2017/18 ar ôl niweidio'u hunain.

Hefyd mae'n amlygu bod merched dan 18 oed ddwywaith yn fwy tebygol na bechgyn o gael eu cludo i'r ysbyty ar ôl anafu eu hunain.

'Isel ac yn drist'

Mae Page sy'n 16 oed ac yn dod o Gwmbran yn rhan o grŵp o ferched ifanc sy'n trafod materion iechyd meddwl.

Wrth gael ei holi gan y BBC dywedodd: "Mae'n really hawdd i weld y lluniau 'ma - ma' gynno fi Twitter ac Instagram a bob wythnos dwin gweld un neu ddau o luniau - ma'n really hawdd gweld nhw a safio nhw i ffonau.

"Mae llawer o bobl ifanc yn gweld e... ar wefannau cymdeithasol. Weithiau mae'n effeithio ni mewn ffordd negyddol iawn a weithiau ni yn drist ac yn isel oherwydd y lluniau.

"Bydd hi'n anodd stopio [y lluniau] - dwi'n meddwl dylai pobl mewn ysgolion ac yn y cartref ddysgu plant am broblemau fel hyn."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Instagram eisoes wedi penderfynu dileu delweddau o hunan niweidio yn sgil marwolaeth Molly Russell

Dywedodd y Comisiynydd Plant bod y galw am gefnogaeth iechyd meddwl i blant wedi codi'n sylweddol yng Nghymru, a bod yr awdurdodau heb ddarganfod y ffordd orau o ymateb i'r sefyllfa hyd yn hyn.

"Rhan o'r darlun yn unig ydy'r cyfryngau cymdeithasol," meddai.

"Mae yna bob math o bethau eraill yn digwydd [ym mywydau] pobl ifanc, fel materion teuluol, byw mewn tlodi a phryderon am y dyfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cymryd camau i ddiogelu pobl fregus ac yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi £7m o gyllid ychwanegol i wella, gwarchod a chefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc Cymru.

"Mae'r cyfryngau cymdeithasol â nifer o fuddiannau, ond mae hefyd yn gallu cael effaith negyddol ar les meddylion ac emosiynol."

Wales Live, BBC One Wales, nos Fercher 13 Chwefror, 22:35