Dyn o Dregaron wedi ffilmio mewn toiledau cyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Dregaron wedi cael dirwy am ffilmio pobl mewn toiledau cyhoeddus heb iddyn nhw wybod.
Clywodd llys yng Nghaernarfon ddydd Iau bod Keith Braziel, 31, wedi cael ei ddal pan sylwodd ddyn arall ar ei ffôn symudol yn ffilmio mewn toiled yn ardal Ganllwyd ger Dolgellau.
Roedd gan Braziel 33 fideo ohono'i hun, ond roedd hefyd wedi ffilmio hen ddyn a pherson ifanc.
Yn ei amddiffyn, dywedodd y bargyfreithiwr Dafydd Roberts nad oedd Braziel yn gallu egluro pam ei fod wedi troseddu.
Fe gyfaddefodd voyeuriaeth a chafodd orchymyn cymunedol tair blynedd, ei orfodi i wneud 100 awr o waith heb dâl, a thalu costau o £170.
Bydd yn cael ei gofrestru fel troseddwr rhyw am bum mlynedd, ond ni chafodd ei wahardd rhag ymweld â thoiledau cyhoeddus.