'Cofio'r cyfnod pan o'n i methu siarad'
- Cyhoeddwyd
Mae Erin Gruffydd o Aberystwyth yn fyfyrwraig dawns ym Munich, yr Almaen, ac yn mwynhau dysgu a chymdeithasu mewn tair iaith. Ond dydy cyfathrebu ddim wedi bod yn hawdd iddi erioed.
Am y blynyddoedd yr oedd Erin yn yr ysgol gynradd, doedd hi'n methu siarad. Am bron i wyth mlynedd, nid oedd yn gallu yngan yr un gair yn gyhoeddus. Roedd hi'n byw gyda'r cyflwr 'mudandod dethol' (selective mutism).
Yma, mae Erin yn dweud ei stori wrth Cymru Fyw ac yn sôn am ei gobeithion ar gyfer y dyfodol:
Es i i'r ysgol feithrin yn dair oed, a dyna pryd ddechreuodd y cyfan. O'n i'n blentyn eitha' sensitif ac yn cymryd sylw o bopeth. Ro'n ni'n byw yng Nghaerdydd bryd hynny ac roedd yr ysgol feithrin yn fawr, roedd lot o blant, lot o sŵn a rhedeg o gwmpas, ac fe wnaeth hynny effeithio arna i. O'n i'n swil a do'n i ddim yn gallu siarad.
O'n i'n gallu teimlo fy ngwddwg i yn cau lan. Teimlad o anxiety, o'n i'n panicio gymaint, odd e'n eitha' scary i ddweud y gwir. O'n i ddim yn gwybod pam oedd e'n digwydd.
Dwi ddim yn meddwl fod yr athrawon ar y pryd yn gwybod sut i ddelio â'r peth. O'n nhw'n meddwl mod i'n styfnig ac yn gwrthod siarad yn fwriadol. O'n nhw'n gwybod mod i'n gallu siarad gyda fy nheulu adre, ond yn gyhoeddus fydden i ond yn gallu sibrwd, hyd yn oed gyda Mam.
Yn yr ysgol, do'n i'n methu dweud dim byd o gwbl. Os o'n i eisiau tŷ bach, neu wedi cael dolur - do'n i ddim yn dweud dim.
Yna, pan o'n i tua chwech oed, fe symudon ni i Aberystwyth. Roedd Mam wedi gweld rhaglen deledu am y cyflwr mudandod dethol. Fe es i Ysgol Llanfarian, sy'n ysgol fach, fach, a fy Mam-gu oedd y brifathrawes. Fe wnaeth hyn wahaniaeth mawr, ond do'n i dal ddim yn gallu siarad yn syth. Ro'n i'n teimlo'n fwy cartrefol mewn awyrgylch ysgol fach a bysen i'n gallu sibrwd wrth Mam-gu yn yr ysgol.
Yn Ysgol Llanfarian fe wnaethon nhw roi bwrdd gwyn bach i fi, felly o'n i'n gallu cyfathrebu'n well, roedd hynny'n beth mawr i fi, ond wnes i ddim ffrindiau agos yn yr ysgol gynradd.
Diflannu dros nos
Pan ddechreues i'n yr ysgol uwchradd, fe newidiodd popeth. Fi oedd yr unig un o fy mlwyddyn i symud lan i Ysgol Penweddig y flwyddyn honno, ac i fi roedd hynny'n neis. Gan bod neb yn gwybod fy nghefndir i, roedd yn haws i fi ddechre o'r dechre. O'n i gymaint yn fwy hyderus, a jyst dros nos, fe aeth [y mudandod].
Yn y cyfnod yma hefyd, ro'n i'n mynd i wersi dawnsio. Roedd yn deimlad neis gallu rhoi 100% i'r dawnsio. Dwi'n meddwl bod y ffaith mod i'n astudio dawns heddiw yn rhywbeth i 'neud â'r ffaith o'n i ddim yn siarad pan o'n i'n fach. O'n i mor rhwystredig pan o'n i'n blentyn, ond ddim pan o'n i'n dawnsio.
Cwrddes i â merch arall yn yr un sefyllfa â fi rai blynyddoedd yn ôl, ac fe wnes i dreulio amser gyda hi. Yn y sefyllfa yna, dyna beth fydden i wedi bod eisiau pan o'n i'n ferch fach, dwi'n meddwl bod codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr yn help.
Fy ngobaith yw i fod yn ddawnswraig broffesiynol, ac erbyn hyn dwi'n byw ym Munich yn yr Almaen yn astudio dawns yn Iwanson International School of Contemporary Dance. Mae tipyn o'r cwrs trwy'r Saesneg ond dwi'n ffeindio fy ffordd yn yr Almaeneg hefyd, ac mae gen i lot o ffrindiau o'r Almaen, Sweden ac Awstralia, a dwi'n berson reit hyderus yn siarad yn gyhoeddus.
Roedd yn gam mor fawr i fi ddod i siarad yn y lle cyntaf, dwi'n edrych nôl a gweld pa mor bell fi wedi dod, mae wedi rhoi mwy o hyder i fi. Dwi'n fwy hyderus erbyn heddiw, oherwydd y plentyndod ges i.
Hefyd o ddiddordeb: