Ymosodiadau heddlu: Chwech wedi eu hanafu dros y penwythnos

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae dyn 35 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, wedi iddo yrru beic modur i gyfeiriad heddweision yn Sir Conwy.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, roedd y digwyddiad yn un o nifer o ymosodiadau ar heddweision dros y penwythnos, gyda chwe heddwas wedi dioddef ymosodiadau ar ddyletswydd.

Cafodd dau heddwas eu hanafu pan yrrodd y dyn feic modur tuag atynt a cholli rheolaeth yn Abergele.

Mae'r dyn yn parhau yn y ddalfa dan amheuaeth o geisio llofruddio a throseddau eraill.

Cafodd tri heddwas arall eu bwrw a'u cicio gan yr unigolion roeddent yn ceisio eu cynorthwyo.

'Dangos peryglon eithafol'

Dywedodd Mark Jones, o Ffederasiwn Heddlu'r Gogledd, bod y digwyddiad yn Abergele a digwyddiadau eraill dros y penwythnos yn "dangos y peryglon eithafol mae ein heddweision yn wynebu'n ddyddiol".

"Lwc pur yw hi na chafodd ein heddweision eu hanafu'n wael, ond er nad oedd yr anafiadau corfforol yn ddifrifol, ni allwn danbrisio'r trawma meddyliol a brofwyd."

Bu'n rhaid i ddau heddwas gael triniaeth feddygol, a dychwelodd eraill at eu gwaith.

Yn ôl Mr Jones, mae'r ffederasiwn yn "mynnu bod y system gyfiawnder yn gwneud defnydd llawn o'u pwerau i gosbi i wneud neges glir bod ymosodiadau ar weithwyr y gwasanaeth brys yn annerbyniol."