Ein Cyfaill Paul

  • Cyhoeddwyd

Mae hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd yn hynafol ac yn ddi-dor ond bu sawl llanw a thrai ar hyd y blynyddoedd. Heb os, daeth yr isafbwynt yng nghanol y ganrif ddiwethaf. Roedd 'na filoedd o siaradwyr Cymraeg yn y ddinas o hyd ond roedd yr iaith yn anweladwy ac roedd yr ysgolion yn debycach o ddathlu Empire Day na Gŵyl ein nawdd sant.

Pa mor debygol oedd hi felly y byddai crwt ifanc o deulu Catholig oedd mwy neu lai yn byw ar gardod yn cwympo mewn cariad â'r iaith Gymraeg? Diolch byth mai dyna'n union ddigwyddodd i Paul Flynn.

Roedd Paul yn sosialydd, yn weriniaethwr ac yn ymgyrchydd dygn dros heddwch ond y Gymraeg a'i dyfodol oedd yn ei gyflyru fwyaf. Yn wir, y frwydr dros addysg Gymraeg yng Ngwent oedd yn gyfrifol am ei ddenu i'r byd gwleidyddol.

Er ei fod yn ystyried ei hun yn genedlaetholwr, roedd Paul yn argyhoeddedig nad oedd yn bosib newid Cymru heb yn gyntaf newid y blaid Lafur a'i hagwedd tuag at iaith a chenedligrwydd Cymru. Roedd y frwydr honno, yn enwedig i ddechrau, yn un anodd ac unig ond yn raddol fach fe wnaeth e, ac eraill, ei hennill.

Pe bawn i'n gorfod dewis un gair i grynhoi cymeriad a gyrfa Paul, dycnwch fyddai'r gair hwnnw. Roedd e fel daeargi bach. O gael ei ddannedd mewn i rywbeth ni fyddai'n gadael i fynd nes cael ei ffordd.

Os am brawf o hynny cerwch i stad Dyffryn yn ei etholaeth. Yno, fe welech adeiladau newydd sbon Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf Casnewydd.

Y drws nesaf iddi saif Ysgol John Frost a enwyd i goffau un o gewri Casnewydd. Ysgol Paul Flynn yw Ysgol Gwent Is Coed mewn gwirionedd a do, fe gollodd Casnewydd a'r Gymraeg un o'u cewri.