Ystyried gwahardd gwerthu cŵn a chathod bach
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gyflwyno cyfraith newydd fyddai'n rhwystro siopau anifeiliaid anwes rhag gwerthu cŵn a chathod bach.
Yn ôl Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, mae anifeiliaid sy'n cael eu gwerthu gan drydydd parti yn fwy agored i niwed.
Mae rhwng 40,000 ac 80,000 o gŵn a chathod bach yn cael eu gwerthu gan werthwyr masnachol yn y DU pob blwyddyn.
Mae gan bobl tan Mai 17 i ddatgan eu barn ar y mater.
Ond mae 'na bryder y gall y math yma o fasnach fod yn gysylltiedig ag amodau lles gwael i'r anifeiliaid, o gymharu â bridwyr swyddogol.
Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi ymgynghori ar gynigion tebyg ar gyfer Lloegr, sef Cyfraith Lucy.
Roedd Lucy, sy'n Sbaniel Cavalier Brenin Charles, wedi dioddef blynyddoedd o greulondeb ar fferm cŵn bach.
Dywedodd Lesley Griffiths: "Mae mwyafrif llethol y rhai hynny sy'n prynu cŵn a chathod bach yn gwneud hynny gan geisio gwneud y peth iawn," meddai.
"Fodd bynnag, nid yw bob amser yn amlwg i'r prynwr o ble y daeth eu hanifail anwes newydd, neu o dan pa amodau y cafodd ei fagu."