Cwest: Bachgen 14 oed wedi 'bwriadu' lladd ei hun

  • Cyhoeddwyd
Derek BrundrettFfynhonnell y llun, KRISTINA WRAY

Roedd bachgen ifanc a gafodd ei ddarganfod wedi crogi ar dir ei ysgol wedi "bwriadu" lladd ei hun, yn ôl casgliad cwest.

Cafodd Derek Brundrett, 14 oed, ei gyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl ddwywaith cyn iddo gael ei ddarganfod yn farw ar dir Ysgol Penfro ym mis Rhagfyr 2013.

Clywodd cwest yn Llys y Crwner Aberdaugleddau i feddygon geisio cyfeirio Derek at wasanaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc (CAHMS) ar ddau achlysur.

Clywodd y cwest i Derek fygwth lladd ei hun yn y gorffennol, a chafodd ei ddarganfod gan ei ffrindiau ger derbynfa'r ysgol wedi iddo gael ei anfon o'r dosbarth.

Cyn ei farwolaeth, roedd wedi bod dan ofal nifer o weithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth.

Roedd hefyd wedi mynychu tair ysgol wahanol mewn cyfnod o ddwy flynedd.

Yn ystod y cwest, daeth i'r amlwg ei fod wedi siarad am hunanladdiad a hunan anafu yn y gorffennol ond nad oedd wedi cael ei ystyried yn ddigon difrifol i CAHMS edrych i'r mater wedi iddo gael ei gyfeirio yno gan feddyg teulu.

Dim 'methiant cyfundrefnol'

Wrth ddod i gasgliad naratif, dywedodd y Dirprwy Grwner Paul Bennett bod un o weithwyr cymdeithasol Derek hefyd wedi methu ei gyfeirio at gefnogaeth seiciatrig pan oedd yna gyfle i wneud hynny.

Fodd bynnag, dywedodd nad oedd modd cyhuddo'r gwasanaethau fu ynghlwm â'i ofal o "fethiant cyfundrefnol".

Ffynhonnell y llun, KRISTINA WRAY

Dywedodd Mr Bennett nad oedd hunanladdiad Derek yn "alwad am help" ond yn hytrach ei fod yn "weithred fwriadol" i ladd ei hun.

"Yn fy marn i, doedd ganddo ddim bwriad i neb ddod o hyd iddo mewn pryd i'w achub, dim ond iddo gael ei ddarganfod yn y pendraw, mwy na thebyg gan ei ffrindiau," meddai.

Roedd Mr Bennett hefyd wedi ymddiheuro i deulu Derek i'r cwest gymryd cyhyd i ddod i gasgliad, wedi iddynt ddechrau clywed tystiolaeth yn 2017.

'Datblygu a gwella gwasanaethau'

Yn ôl datganiad gan Dr Warren Lloyd, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae'r bwrdd yn "derbyn" canfyddiadau'r cwest, ac wedi gweithio i "ddatblygu a gwella gwasanaethau rheng flaen ymhellach".

"Mae'r Bwrdd Iechyd yn parhau i wella ymwybyddiaeth o anghenion plant a phobl ifanc ac mae Hywel Dda yn un o bedwar safle yng Nghymru yn gweithredu peilot addysgol mewn ysgolion, i gynyddu ymyrru ac atal cynt ar iechyd emosiynol."

Mae'r bwrdd hefyd yn cynnig cyfarfod gyda theulu Derek i edrych ar y gwersi a ddysgwyd.

Dywedodd Cyngor Sir Benfro eu bod hwythau hefyd yn "ystyried pa wersi sydd i'w dysgu" o farwolaeth Derek wrth barhau i warchod plant a phobl ifanc sydd dan ofal yr awdurdod lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Siaradodd Kristina Wray, mam Derek, wedi i'r cwest ddod i ben

Siaradodd mam Derek, Kristina Wray, y tu allan i'r cwest, gan ddweud ei bod yn "wir obeithio" y byddai'r gwasanaethau yn dysgu o'r achos.

Dywedodd ei bod yn awyddus i dderbyn ymddiheuriad oddi wrth "y cyngor lleol a allai fod wedi achub bywyd fy mab".

"Fe wnaethon nhw adael fy mabi i lawr. Fe wnaethon nhw fy ngadael i ac fe wnaethon nhw adael fy mab i lawr.

"Felly mae ystyried ble i fynd o fan hyn, dydw i ddim 100% yn siŵr," meddai.