Cabinet Llywodraeth Cymru yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Cabinet
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r eildro yn unig i gabinet Llywodraeth Cymru gyfarfod yn y gogledd

Bydd Cabinet Llywodraeth Cymru yn cwrdd yn y gogledd ddydd Iau am yr eildro yn unig ers datganoli yn 1999.

Bydd gweindogion hefyd yn cwrdd â Horizon, y cwmni tu cefn i'r cynlluniau ar gyfer atomfa Wylfa Newydd ar Ynys Môn - cynllun sydd bellach wedi'i oedi.

Yn gynharach yr wythnos hon, bu Ysgrifenydd Cymru, Alun Cairns, yn cyfarfod cynrychiolwyr o'r cwmni sydd berchen Horizon, Hitachi, yn Tokyo.

Mae'r BBC ar ddeall bod y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cael gwahoddiad i fynd i Japan gyda Mr Cairns, ond ei fod wedi gwrthod oherwydd trefniadau eraill oedd ganddo yn y DU.

Fe ddaw'r cyfarfod y diwrnod wedi i'r National Grid gadarnhau ei fod yn dileu cynlluniau i godi peilonau a fyddai wedi cysylltu Wylfa Newydd gyda'r rhwydwaith.

Ymrwymiad

Y tro diwethaf i'r cabinet gwrdd yn y gogledd oedd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno yn 2011.

Dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, na fyddai'r cyfarfod hwnnw "yn rhywbeth untro".

Mae ei olynydd Mark Drakeford yn gobeithio y bydd cyfarfod dydd Iau yn arwydd o ymrwymiad i'r rhanbarth.

Eisoes mae wedi rhoi cyfrifoldeb gweinidogol am ogledd Cymru i'r Gweinidog Economi, Ken Skates.

Cyfarfodydd Tokyo

Wedi'r cyfarfodydd yn Tokyo, mynnodd Mr Cairns bod lle o hyd i ynni niwclear yn y DU, ond fod "rhaid i unrhyw gynnig yn y dyfodol roi gwerth am arian i'r trethdalwr ac i'r cwsmer".

Yn ôl ffynonellau yn Llywodraeth y DU, fe allai fod ffyrdd eraill o ariannu Wylfa Newydd, ond mae pryder na all cynigion amgen gael eu paratoi yn ddigon cyflym.

Daeth i'r amlwg fod Swyddfa Cymru wedi gofyn a fyddai Mr Drakeford - neu weinidog arall o Lywodraeth Cymru - am fynd i Japan i gwrdd â chwmnïau sy'n cyflogi pobl yng Nghymru, er nad oedd Hitachi yn rhan o'r amserlen pan gafodd y gwahoddiad ei yrru.

Ymatebodd swyddfa Mr Drakeford drwy ddweud nad oedd y daith "yn ymarferol" tra bod y Cynulliad yn eistedd.

Yn y cyfamser mae Airbus, sy'n cyflogi 6,000 o bobl ym Mrychdyn, Sir y Fflint, wedi rhybuddio y gallan nhw symud y gwaith o adeiladu adenydd eu hawyrennau allan o Gymru a'r DU os fydd Brexit heb gytundeb.

Mis diwethaf, fe ddaeth i'r amlwg y gallai ffatri Rehau - cwmni deunyddiau plastig sy'n berchen i gwmni o'r Almaen - gau, gan fygwth 100 o swyddi yn Amlwch.

Dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r gogledd wedi cael tipyn o newyddion anodd dros yr wythnosau diwethaf, ac mae'r ansicrwydd am Brexit yn sicr o fod yn destun pryder i fusnesau ar draws y rhanbarth... mae Airbus wedi bod glir am eu safbwynt yr wythnos ddiwethaf er enghraifft."