Cynnig angladdau fforddiadwy, 'gwahanol'
- Cyhoeddwyd
Mae trefnu angladd yn fusnes drud, ac yn anffodus, mae'n rhywbeth nad yw hi'n hawdd ei osgoi.
Ond mae un cwmni angladdau yn Llanrug yn ceisio lleihau'r gost i'r teulu a hefyd yn cynnig angladdau sydd ychydig yn wahanol i'r traddodiadol.
Sgwrs rhwng ffrindiau a ysgogodd Gwion Llwyd ac Adi Hickey i sefydlu busnes Tirion yn 2014. Roedd Adi a'i gŵr newydd symud i'r ardal, a Gwion yn sôn wrthyn nhw fod popeth oedd ei angen ym mhentref Llanrug... popeth ond ymgymerwyr angladdau.
"Ma'n bentre grêt i fyw ynddo - ma' pob dim yma, o ddoctor i ysgol fach i ysgol uwchradd i'r cigydd, a'r unig beth sydd ar goll ydi lle claddu - fel arall, ti ddim yn gorfod gadael!" meddai Gwion.
"Mwydro oedd o fwy na'm byd, ond o'n i wedi meddwl amdano fo flynyddoedd yn ôl, ac o'dd Adi, yn dilyn angladd perthynas iddi, yn meddwl falle fasai trefnu angladdau yn rhywbeth 'sa hi'n gallu ei 'neud."
Bellach mae gan y cwmni waith cyson, yn trefnu angladdau yn y gogledd orllewin, ac yn cynnig gwasanaethau 'traddodiadol' mewn capeli neu amlosgfeydd, ond hefyd yn cynnig opsiynau mwy anarferol, fel claddedigaeth naturiol, ac angladdau mwy lliwgar a phersonol.
'Costau angladd yn uffernol'
Un o brif amcanion y cwmni yw i sicrhau angladd sydd yn ateb gofynion y cleient ond sydd hefyd yn fforddiadwy.
"Mae costau angladd yn uffernol, felly 'dan ni'n trio cynnig opsiynau ac yn gwneud gymaint â maen nhw'n gyfforddus efo fo i gadw'r costau i lawr. 'Dan ni'n trio bod yn hollol agored fel bod pobl yn gwybod yn union faint mae petha' am gostio," meddai Gwion.
"Does 'na ddim transparency ynglŷn â faint mae angladdau'n eu costio'n aml. Neb yn siarad am y peth ac yna mae'r bil yn dod a 'sa'n gallu bod yn filoedd.
"Ar y pryd, pan ti'n mynd drwy brofedigaeth, mae'n anodd meddwl am bopeth, ac am bethau fel pres. Mae'n anrhydedd gallu helpu pobl drwy yr amser yma."
Felly beth yw'r opsiynau sydd yn cael eu cynnig gan Gwion ac Adi?
"I gadw'r costau i lawr, mae gen i VW Transporter du i gludo'r arch yn lle hers. Digwydd bod ei fod o'n ddu, dim achos y claddu - cyn hwn, oedd gen i un electric blue ac oddan ni'n defnyddio hwnnw! 'Dan ni'n egluro i'r teulu y ga'n nhw hers â chroeso, ond fod hynny'n dod â chostau ychwanegol.
"O ran arch, be' sy'n boblogaidd iawn ydi arch o gardfwrdd - mae o'n un o'r ffyrdd rhata'. Ac mae rhai wicer hefyd yn boblogaidd.
"A'r math rhataf a symlaf o angladd ydi un yn yr amlosgfa, heb wasanaeth. 'Dan ni'n trefnu i ôl y corff, mynd â fo i'r crem, a chasglu'r llwch a'i roi o i'r teulu. Mae o fyny i'r teulu wedyn os ydyn nhw eisiau gwasanaeth efo'r llwch."
Parchu'r corff a'r teulu
Felly sut beth yw bod yn ymgymerwr angladdau, heb fod â phrofiad o wneud hynny o'r blaen?
"Y tro cynta' i mi drin corff, roedd o'n fwy nerve-wracking na rŵan, yn amlwg. 'Swn i'm yn deud mod i 'di dod i arfer efo fo eto - ond dwn i'm os oes 'na adeg lle ti yn dod i arfer efo fo chwaith," meddai Gwion.
"Parchu'r corff a'r teulu sy'n bwysig. Fel arfer, dymuniadau'r cleient - y person sydd wedi marw - 'dan ni'n eu cael, ond ddim bob tro, fel pan mae rhywun yn marw heb rybudd.
"'Dan ni'n mynd yn ôl gofynion y teulu, o ran gwisgo'r corff. Maen 'na reolau efo'r crem, achos mae 'na bethau allith ddim cael eu llosgi. Ac hefyd yn y goedwig, dim ond pethau naturiol sydd yn pydru allith gael eu gwisgo. Ond ar wahân i hynny, fel arfer mae gan y teulu ofynion penodol o ran gwisg."
A gan fod gan Gwion ac Adi swyddi eraill hefyd - Gwion gyda phlant ag anableddau dysgu, ac Adi yn y Goedwigaeth Dragwyddol ym Moduan, ger Pwllheli, sef man claddu naturiol - mae'n rhaid bod elfen o hyblygrwydd wrth redeg eu cwmni.
"Mae'n eitha' hyblyg. Gan bo' ni ddim mor draddodiadol â hynny, mae'r rhan fwyaf o'n cleientiaid ni yn cael eu claddu yn y goedwig, a gall hynny ddigwydd ar ddyddiau Sadwrn a Sul. Fel arall, allwn ni gynnig amseroedd lle dwi ddim yn gweithio," meddai Gwion.
"Ond os 'dan ni'n cael galwad ffôn i ddweud fod rhywun wedi marw, mae'n rhaid i ni ollwng popeth a mynd. 'Nathon ni orfod gadael y Steddfod Genedlaethol yn Sir Fôn i ôl rhywun. Ond dyna natur y gwaith - dydi o ddim yn ffitio i focs 9-5."
Ddim at ddant pawb
Mae'r angladdau maen nhw wedi eu cynnal yn cynnwys un mewn hafan Bwdaidd, gyda'r gwasanaeth yn cael ei ffrydio'n fyw ar y we ar draws y byd, ac un mewn pabell syrcas.
"Roedd yn achlysur cymunedol lle roedd pawb wedi dod at ei gilydd i godi'r big top, gwneud y bwyd a hyd yn oed gorchwylio traffig," meddai Gwion.
Mae'n ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn medru cynnig angladdau 'gwahanol' i bobl, er ei fod yn cydnabod na fyddai pawb yn dewis beth maen nhw'n ei gynnig.
"Dydi o ddim at ddant pawb. Y traddodiad Cymreig ar y cyfan ydi defnyddio pwy ddefnyddiodd Mam a Dad i gladdu Nain a Taid...
"Ond yn aml, pan mae pobl yn dod i angladd yn y goedwig, mae lot yn deud mai dyna un o'r angladdau gorau maen nhw 'di bod ynddo fo, gan ei fod o jyst mor wahanol.
"Mae angladd unigolyn yn amser trist iawn i deulu a ffrindiau ond eto mae'n gyfle i ddathlu'r person yna a'i fywyd. Gall angladd fod yn achlysur lle mae teulu a ffrindiau yn gallu dod at ei gilydd a chymryd amser i rannu straeon a siarad am eu colled.
"Ond weithiau, mae hyn yn anodd iawn i'w wneud mewn angladd traddodiadol."
Hefyd o ddiddordeb: