Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 21-13 Lloegr
- Cyhoeddwyd

Josh Adams sicrhaodd y fuddugoliaeth gyda chais ym munudau olaf yr ornest
Mae Cymru wedi torri record newydd o ennill 12 gêm yn olynol wedi iddynt guro Lloegr yn Stadiwm Principality.
Wedi dechrau digon sigledig, bu'n fuddugoliaeth gampus i Gymru wedi gêm gynhyrfus, a arweiniodd at golled gyntaf Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Mae'r Gamp Lawn a'r Goron Driphlyg yn parhau o fewn gafael y Crysau Cochion, wedi iddynt ennill o 21-13.
Tair cic gosb gan Gareth Anscombe a cheisiadau gan Cory Hill a Josh Adams sicrhaodd y pwyntiau angenrheidiol i Gymru, er mai'r ymwelwyr oedd y ffefrynnau i ennill.

Tom Curry sgoriodd cais gyntaf y gêm
Aeth triphwynt cyntaf y gêm i Loegr wedi i Tom Curry fanteisio ar gic cosb, ond cafodd Cymru hefyd gic gosb yn fuan wrth ei chwt, gyda Gareth Anscombe yn unioni'r sgôr.
Fodd bynnag, hanner awr i mewn i'r gêm, manteisiodd Curry ar fwlch amlwg i sgorio cais gyntaf y gêm ac mi wnaeth trosiad Owen Farrell lwyddo i roi Lloegr ar y blaen.
Ar ddiwedd yr ail hanner, roedd sgôr o 3-10 i Loegr yn dyst o gyd-weithio agos yr ymwelwyr wrth amddiffyn eu tir a chamgymeriadau bach Cymru'n rhoi pwysau arnynt i geisio lleihau'r bwlch yn yr ail hanner.

Bu cyd-weithio gofalus Lloegr wrth amddiffyn yn rhan o'u llwyddiant yn y rhan gyntaf
Galwodd y sylwebydd a chyn-chwaraewr Cymru Dafydd Jones ar dîm Cymru i "fod yn ddewr" yn ystod yr ail hanner.
Ac roedd y tensiwn yn y stadiwm yn parhau wrth i'r tîm cartref barhau i wneud camgymeriadau esgeulus, ac i dîm chwim Lloegr fanteisio ar hynny.
Fodd bynnag, Cymru sgoriodd gyntaf yn yr ail hanner, wrth i Anscombe hawlio cic gosb arall a sicrhau tri phwynt arall.

Sgoriwyd tair cic gosb gan Gareth Anscombe
Fe wnaeth tacl gan Kyle Sinckler gythruddo'r dorf, er i'r dyfarnwr benderfynu mai dal ei dir wnaeth y prop yn hytrach na rhoi tacl hwyr i Anscombe.
Derbyniodd rhybudd olaf gan Jaco Peyper wedi iddo osod ei fraich o am wddf y capten, Alun Wyn Jones, ac fe benderfynodd Eddie Jones ei amnewid am Harry Williams cyn unrhyw gamwedd arall.
Wrth i ddisgyblaeth Lloegr lithro, dyfarnwyd cic gosb arall i Gymru, gan roi pwynt yn unig rhwng y ddau dîm.
Ac er mwyn rhoi cyfle i Anscombe orffwys, galwyd Dan Biggar i'r cae.

Cory Hill sgoriodd y cais gyntaf i Gymru
Er i gic cosb i Loegr edrych fel petai gobeithion Cymru'n ulw, fe ddaeth cais hollbwysig gan Cory Hill â phwyntiau anghenrheidiol i'r tîm cartref deuddeg munud cyn diwedd y gêm.
Troswyd y cais gan Biggar a throi'r gêm ar ei phen.
Newidwyd Cory Hill am Adam Beard toc wedi'i gais lwyddiannus, wrth i Loegr newid Jonny May blinedig am Joe Cokansaiga.
Cynyddodd y tensiwn eto wrth i Gymru geisio cadw'u gafael ar y fuddugoliaeth yn neg munud olaf y gêm.
Wrth i'r dorf ganu a chefnogi'r tîm cartref, gwibiodd Josh Adams i hawlio ail gais i Gymru, gan roi gyfle i Biggar eto drosi'r cais a sicrhau'r fuddugoliaeth yn ystod y munudau olaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2019