Sioe Ray Gravell yn ysbrydoli carfan rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gareth John Bale mewn golygfa deimladwy o'r sioe 'Grav'Ffynhonnell y llun, Ceri Coleman Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Gareth John Bale mewn golygfa deimladwy o'r sioe 'Grav'

Sioe un dyn am y diweddar Ray Gravell sydd wedi bod yn ysbrydoli carfan rygbi Cymru cyn y gêm fawr yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn.

Cafodd chwaraewyr a thîm hyfforddi Cymru gyfle i wylio perfformiad preifat o'r sioe 'Grav' yn ystafell newid yr hen elyn yn Stadiwm Principality nos Lun.

Bu farw'r cyn-seren rygbi a'r darlledwr Ray Gravell yn dilyn salwch tra ar wyliau teuluol yn Sbaen yn 2007.

Mae sioe un dyn am ei fywyd yn cael ei berfformio gan yr actor - ac nid y pêl-droediwr - Gareth Bale.

"Roedd yn brofiad ffantastig, a dylen ni fod wedi chwarae'n syth ar ôl hynny, i fod yn onest â chi," meddai hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Robin McBryde.

"Mae'n ein rhoi mewn lle da yn feddyliol.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd McBryde yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth

"Roedd y profiad yn eich atgoffa o'r rhesymau pam fod rhai ohonom yn chwarae rygbi a pham fod rhai ohonom ni sydd ddim yn ei chwarae mwyach yn ei golli gymaint.

"Os gallwn mewn unrhyw fodd berfformio fel gwnaeth Gareth Bale neithiwr nos Sadwrn, does dim ots os yw'r to yn agored neu ar gau, dim ond un canlyniad fydd."

Halfpenny yn ôl?

Mae'r cefnwr Leigh Halfpenny a'r maswr Dan Biggar yn ymarfer gyda'r garfan cyn y gêm ddydd Sadwrn yn dilyn anafiadau.

Dyw Cymru na Lloegr heb golli gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni - gyda Chymru ar rediad o 11 buddugoliaeth yn olynol.

"Mae rhywun yn teimlo bod hon yn gêm anferth," meddai McBryde.

"Gall hon fynd dipyn o ffordd i benderfynu pwy sy'n cipio'r tlws ar ddiwedd y bencampwriaeth."