Uwch Gynghrair: Caerdydd 1-5 Watford

  • Cyhoeddwyd
DeulofeuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Deulofeu oedd yr arwr i'r ymwelwyr

Ymosodwyr Watford yn cosbi camgymeriadau amddiffynnol Caerdydd ar noson siomedig i'r tîm cartref.

Yr ymwelwyr ddechreuodd orau gyda'r asgellwr Gerard Deulofeu a'r capten Troy Deeney yn gorfodi arbedion campus gan Neil Etheridge.

Daeth y pwysau yn ormod i amddiffyn Caerdydd wedi 18 munud wrth i Deulofeu grymanu'r bêl i gornel isaf y rhwyd o ymyl y cwrt cosbi.

Roedd hi'n edrych fel bod Josh Murphy wedi ennill cic o'r smotyn i Gaerdydd cyn hanner amser, ond penderfynodd y dyfarnwr fod tacl Craig Cathcart yn un teg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd adroddiadau bod Caerdydd wedi ceisio arwyddo Troy Deeney yn yr haf

Dechreuodd Gaerdydd reoli'r chwarae yn yr ail hanner, ond wrth iddynt wthio chwaraewyr ymlaen roedd bylchau mawr yn ymddangos yn yr amddiffyn.

Wedi 61 munud fe wnaeth yr ymwelwyr wrthymosod yn sydyn gan ryddhau Deulofeu a lwyddodd i daro'r bel heibio Etheridge cyn pasio'r bel i gefn y rhwyd.

Dau funud yn ddiweddarach roedd hi'n 3-0, Deulofeu unwaith eto yn manteisio ar gamgymeriad Harry Arter cyn rhedeg hyd hanner Caerdydd a'i chodi dros y golwr.

Deeney ychwanegodd y bedwaredd ar ôl pasio ardderchog gan Watford wedi 73 munud.

Fe wnaeth Sol Bamba lwyddo i sgorio gôl gysur i Gaerdydd o gic gornel, cyn i Deeney ychwanegu'r bumed yn ystod amser ychwanegol.