Gobaith i degeirian hynod brin flodeuo ar faes tanio
- Cyhoeddwyd
Mae cadwriaethwyr yn gobeithio y bydd tegeirian mwyaf prin Prydain yn blodeuo yn y dyfodol agos ar faes tanio yn Sir Gaerfyrddin.
Mae tegeirian y fign â statws rhyngwladol i'w warchod ac mae ond yn tyfu'n wyllt mewn dau le ar draws y DU.
Bellach mae elusen Plantlife yn gobeithio adfer y blodyn yn nhwyni Pentywyn - 17 o flynyddoedd ers i'r rhywogaeth ddiflannu o'r ardal.
Dywedodd Colin Chessman, prif swyddog cadwraethol yr elusen: "Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau neu fe allen ni golli'r rhywogaeth am byth."
Er mor annhebygol yw maes tanio'r lluoedd arfog fel lleoliad ar gyfer ailgyflwyno blodyn mor gain a phrin, mae gwaith wedi dechrau i glirio glaswellt a llwyni o dwyni Pentywyn.
Nod y gwaith yw adfer ardal o dywod agored a rhoi'r cyfle gorau posib i'r blodyn wreiddio a thyfu yn y tir gwlyb.
Yn ôl Mr Chessman, mae'r tegeirian dan sylw sy'n tyfu yn nhwyni tywod yn unigryw i dde Cymru.
"Gwarchod rhan o'n treftadaeth naturiol sy'n digwydd yma," meddai.
'Aeth i ddifancoll'
"Mae 'na olwg ymosodol ar y peiriannau cloddio ond maen nhw'n clirio'r glaswellt sy'n mygu'r ardal, i annog ailflodeuo neu fe allwn ni blannu had.
"Roedd y twyni yn gartref ar un cyfnod i degeirian y fign ond fe aeth i ddifancoll wrth i'r twyni gael eu gorchuddio â thyfiant."
Yn dilyn gwaith tebyg gan yr elusen yng nghwarchodfa natur Cynffig, ger Pen-y-bont ar Ogwr, fe wnaeth poblogaeth tegeirian y fign gynyddu o 40 i 1,500 mewn pum mlynedd.
Yr unig le arall yn y DU lle mae'r tegeirian yn tyfu yw'r corsydd gwyllt yn Nwyrain Anglia.
Bydd y gwaith clirio ar ben yn fuan ym Mhentywyn, ond gan fod tegeirianau'n tyfu'n araf mae disgwyl iddi gymryd rhai blynyddoedd cyn y bydd blodau i'w gweld yno.
Dywedodd Mr Chessman: "Dros y degawd nesaf mae disgwyl i nifer o degeirianau a phlanhigion prin eraill adfeddiannu'r tir, gan roi lliw i'r twyni a'u hadfer i'w hen ogoniant."
Mae hanes y gwaith ar raglen BBC Wales Country Focus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2016