Carcharu gyrrwr am achosi marwolaeth cyd-deithiwr

  • Cyhoeddwyd
Lee HillierFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Lee Hillier reolaeth ar ei gar wrth yrru ar yr A469

Mae gyrrwr o ardal Caerffili wedu cael dedfryd o dros saith mlynedd o garchar ar ôl cyfaddef ei fod wedi achosi marwolaeth dyn oedd yn teithio yn ei gerbyd.

Roedd Lee Hillier, 30, wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth Jason Clarke, oedd yn 43 oed ac o ardal Tre-lyn y dref, trwy yrru'n beryglus.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod sampl gwaed i'r heddlu wedi'r gwrthdrawiad ar yr A469 yn ardal Hengoed fis diwethaf yn dangos bod y ddiffynnydd â dwywaith y lefel gyfreithiol o alcohol yn ei waed.

Dywedodd Jamie Dewar o Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru bod Hillier "wedi anwybyddu" ei gyd-deithwyr wrth iddyn nhw "erfyn arno i arafu".

Roedd Hillier hefyd wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad o achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus.

Cafodd Carley Appleton a Granville Vincent eu hanafu pan gollodd Hillier reolaeth ar ei gar Seat Leon tua 20:30 ar 11 Ionawr.

Fe darodd ymyl palmant yn y lle cyntaf cyn croesi'r ffordd a tharo fan Volkswagen.

Roedd Mr Clarke yn teithio yng nghefn y Seat Leon.

Cafodd Hillier ddedfryd o saith mlynedd a phedwar mis dan glo.

Dywedodd Mr Dewar bod canlyniadau'r achos yn "ddychrynllyd", gan gydymdeimlo ag anwyliaid Mr Clarke a dymuno gwellhad buan i'r ddau deithiwr arall.