Bae Colwyn yn ystyried dychwelyd i bêl-droed yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae CPD Bae Colwyn yn ystyried dychwelyd i chwarae yng nghynghreiriau pêl-droed Cymru oherwydd trafferthion ariannol, yn ôl datganiad gan y clwb.
Mae Bae Colwyn wedi bod yn rhan o'r pyramid pêl-droed yn Lloegr ers degawdau, ac fe benderfynodd y clwb beidio ymuno â Chynghrair Cymru yn 1991.
Yn ôl y datganiad, mae angen i'r clwb gasglu £100,000 yn fwy bob blwyddyn er mwyn parhau i fod yn gystadleuol ar eu lefel bresennol.
Ychwanegodd y datganiad bod y cadeirydd a'r rheolwr yn cytuno bod eu "calonnau eisiau aros yn Lloegr, ond eu pennau'n eu hannog i fynd yn ôl i bêl-droed Cymreig lleol ac ailadeiladu".
'Diffyg cefnogaeth'
Ychwanegodd datganiad y clwb eu bod yn "gyndyn" o symud, ond y byddai parhau fel hyn yn arwain at ddirwyn y clwb i ben o fewn dwy flynedd.
Mae CPD Bae Colwyn yn gobeithio cynnal trafodaethau gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Dywedodd Tim Channon, swyddog y wasg CPD Bae Colwyn, fod y sefyllfa ariannol wedi bod yn gwaethygu ers blynyddoedd a'u bod nhw'n "methu fforddio" parhau fel hyn.
"Nid oes digon o bobl yn dod i gefnogi ac mae'r diffyg buddsoddiad gan fusnesau ac ati yn ei gwneud hi'n amhosib i'r sefyllfa bresennol barhau."
"Mae'r gefnogaeth i gyd i weld yn mynd at Glwb Rygbi RGC, ac mae'n anodd iawn i ni gystadlu," meddai.
Dywedodd cadeirydd y clwb, Bill Murray, mewn cyfarfod nos Lun fod gan y clwb dri opsiwn:
Parhau gyda'r sefyllfa bresennol fyddai'n gweld y clwb yn mynd i'r wal;
Aros yn Lloegr ar gyllideb is;
Dechrau o'r newydd yn y system yng Nghymru.
Ychwanegodd Mr Channon fod yr holl fater "dal yn aneglur ar hyn o bryd", ond ei fod yn eithaf sicr y byddai'n rhaid i'r clwb ddechrau yn yr haen isaf yng Nghymru pe bai'r newid yn digwydd.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cael cais am sylw.