Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 0-3 Everton

  • Cyhoeddwyd
Gylfi SigurdssonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyn-chwaraewr Abertawe, Gylfi Sigurdsson, sgoriodd ddwy gôl gyntaf Everton

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn parhau'n beryglus o agos at safleoedd y cwymp ar ôl cael cweir gan Everton yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen toc cyn hanner amser gyda gôl gan gyn-chwaraewr Abertawe, Gylfi Sigurdsson, wedi i bas dda gan Seamus Coleman ei ganfod yn rhydd yn y cwrt cosbi.

Ychwanegodd Sigurdsson ei ail ar ôl 66 munud gan rwydo wedi i Neil Etheridge arbed croesiad Bernard.

Fe wnaeth Dominic Calvert-Lewin ychwanegu trydedd gôl i Everton yn y munudau olaf, gan orffen yn hyderus yn dilyn pas Idrissa Gueye.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn parhau yn y 17eg safle yn yr Uwch Gynghrair, un pwynt yn unig o ddisgyn i'r tri isaf.