Lle oeddwn i: Margaret Williams, Cân i Gymru 1969
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n 50 mlynedd ers i Margaret Williams ennill y gystadleuaeth Cân i Gymru gyntaf gyda'r gân Y Cwilt Cymreig.
Mae'r gystadleuaeth wedi tyfu dros y blynyddoedd ac wedi rhoi llwyfan i rai o gantorion enwocaf Cymru. Cafodd Cymru Fyw air gyda Margaret i drafod yr hyn mae hi'n ei gofio o'r cyfnod.
Mae'n gymaint o amser yn ôl. Roeddwn i wedi bod yn gwneud rhaglenni adloniant ysgafn ers y cychwyn yn 1964. Ond wrth gwrs mi o'n i'n gyffrous pan ofynodd Meredydd Evans i mi gymryd rhan, yn enwedig am mod i'n gwybod bod hi am fod yn gyfres o wyth rhaglen - felly roedd yn waith am ddau fis.
Yn yr wyth rhaglen roedd yna saith cân ym mhob un. Roedd pobl yn pleidleisio drwy anfon llythyrau, ac roedd y gân oedd yn ennill y rhaglen honno'n mynd ymlaen i'r rhaglen olaf - y ffeinal. Yn y rhaglen olaf felly roedd yna saith cân, ac enillydd honno edd yn ennill y teitl Cân i Gymru.
Roedd hi'n broses hir - saith wythnos o gystadlu cyn y rownd derfynol yn yr wythfed wythnos. Fues i'n lwcus ac ennill mewn pump o'r cystadlaethau, ac mewn deuawd efo Bryn Williams.
Caneuon Cymraeg a Saesneg
Y gân wnes i efo Bryn oedd Wonderful Wales, dwi'n cofio hynny achos mi roedd 'na ganeuon Saesneg a Chymraeg yn y gystadleuaeth yr adeg honno, gyda phawb ym Mhrydain yn cael cyfansoddi.
Roedd hi'n gyfres bwysig i'r BBC, achos roedd Meredydd Evans yn gobeithio y bydden ni'n rhan o'r Eurovision Song Contest - ddaeth hi ddim yn rhan ohoni yn y diwedd wrth gwrs. Ond mi wnaeth y rhaglen ola', y rownd derfynol, gael ei darlledu drwy Brydain gyfan, yn Saesneg ac yn Gymraeg. Ronnie Williams (o'r ddeuawd Ryan a Ronnie) oedd yn cyflwyno.
Gan ei bod hi'n fyw drwy Brydain roedd 'na lawer iawn yn gwylio. Mi ges i lawer o gynigion i wneud sioeau glan môr yn yr haf a phantomeim.
Ar ôl Cân i Gymru es i gyflwyno rhaglen rhwydwaith arall - Music from the Castles, a'r gyfres Saesneg Singing Barn. Ac ro'n i ar raglenni Ryan a Ronnie, a oedd hefyd ar y rhwydwaith.
Dyna un peth roedd Meredydd Evans yn ei wneud, a dyna sut dechreuodd o gyda Cân i Gymru - roedd o eisiau gwthio Cymry i gael eu gweld ar y rhwydwaith. Bod ni ddim yn eilradd, ond cystal â rhaglenni eraill.
Ar y pryd roedd 'na lawer iawn o raglenni cerdd o'r Alban ar rwydwaith y BBC, felly roedd Mered yn teimlo y dylen ni fod yna hefyd, ac felly daeth sylw i artistiaid Cymraeg.
'Safon eithriadol o dda'
Wrth gwrs mae 'na ambell flwyddyn yn well na'i gilydd, ond mae hynny'n hollol naturiol. Dwi'n meddwl bod y safon yn eithriadol o dda, a diolch i'r cwmnïau teledu sy'n ei gwneud hi mae'r darlledu o hyd yn safonol.
Dwi'n gwybod fy hun, gan mod i'n un o'r beirniaid yn 2009, am y broses fanwl o wrando ar y caneuon a dewis a dethol, a'r trefniant ac ati.
Yn 1969 nes i ganu Y Cwilt Cymreig, nes i'w chanu hi mewn ffordd chwareus a chael hwyl. Benny Litchfield [cyfansoddwr Puppet On a String] wnaeth sgwennu'r gerddoriaeth - dim ond dwy flynedd oedd ers i Brydain ennill yr Eurovision Song Contest efo Puppet On a String ac roedd o 'di gwneud trefniant gwych iddi, tebyg i Puppet On a String efallai.
Hoff enillydd Cân i Gymru
Y Cwm gan Huw Chiswell ydy fy ffefryn i. Yn 2009 pan o'n i'n feirniad ro'n i'n hoffi'r gân enillodd yn arw iawn, Elfed Morgan Morris yn canu Gofidiau, ond roedd y gân ddaeth ail gan Tesni yn wych hefyd.
Mae 'na amryw o ganeuon o'n i'n licio'n fawr - Gwlad y Rasta Gwyn gan Bryn Fôn ac mae Nid Llwynog Oedd yr Haul yn un arall.
Ffasiwn Cân i Gymru
Yn y chwedegau roedd y minis - dwi'n cofio o'n i mewn ffrog fer iawn yn 1969, ac oedd gen i ryw ringlets yn fy ngwallt.
Os sbïwch chi nôl i'r 70au roedd 'na rai gwisgoedd chwerthinllyd, ond dyna oedd y ffasiwn ar y pryd, felly roedd rhywun yn licio'i gweld nhw.
Ac erbyn yr 80au, gyda'r ysgwyddau llydan, o'n i wrth fy modd efo rheiny hefyd! Maen braf edrych nôl a gweld sut roedd y ffasiwn ar y pryd.