Camdriniaeth ddomestig: Dynion yn 'dioddef yn dawel'

  • Cyhoeddwyd
Camdriniaeth ddomestigFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae elusen Calan yn gweithio â dros 20 o ddynion o'r de a'r gorllewin ar unrhyw adeg

Mae elusen sy'n helpu dioddefwyr yn pryderu bod nifer o ddynion sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig yn "dioddef yn dawel".

Dywedodd Calan ei fod wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y dynion sy'n defnyddio ei gwasanaethau.

Mae'r elusen yn galw am ragor o nawdd i barhau â chynllun sy'n cynnig cymorth a sesiynau cwnsela sydd wedi'u llunio'n arbennig ar gyfer dynion.

Mae Arolwg Troseddu diweddaraf Cymru a Lloegr yn awgrymu bod dros draean dioddefwyr camdriniaeth ddomestig yn ddynion.

Stori John

Fe wnaeth John droi at Calan pan oedd yn teimlo y byddai'n "well i mi farw".

"Roedd hi wastad yn genfigennus os oedd 'na rywun arall yn dangos diddordeb ynof fi," meddai am ei bartner.

"Yn gyntaf roedd hi'n gas gyda mi am ddyddiau ar y tro, ond wedyn roedd hi'n gas gyda mi trwy'r amser.

"Allwn i wneud dim ond ceisio ei dal hi oddi arna i. Mae'n anodd - rydych chi'n cael eich barnu gan bobl fel yr heddlu fel mai chi sy'n achosi popeth.

"Dydyn nhw ddim yn deall pan mae dynion yn cael eu cam-drin, ond rwy'n meddwl eu bod nhw'n dechrau nawr."

Mae Calan, sydd wedi'i leoli yn Llandarsi, wedi gweithio gydag academyddion Prifysgol De Cymru i ddatblygu rhaglen Cwmpas, sy'n cefnogi dynion i sylweddoli eu bod nhw hefyd yn gallu bod yn ddioddefwyr.

Cynllun peilot yw Cwmpas ar hyn o bryd, gyda'r gobaith o'i ymestyn yn ehangach yn ddiweddarach eleni.

"Mae 'na gred wirioneddol bod camdriniaeth ddomestig yn digwydd i ferched yn unig, ac mae hynny'n atal dynion rhag codi llais," meddai rheolwr y prosiect, Michael Dix-William

"Mae'n ychwanegu at y gred na fyddan nhw'n cael eu credu."

'Da i ddim'

Mae Arolwg Troseddu diweddaraf Cymru a Lloegr yn amcangyfrif bod 1.3 miliwn o ferched a 695,000 o ddynion wedi profi camdriniaeth ddomestig yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Calan yn gweithio â dros 20 o ddynion o'r de a'r gorllewin ar unrhyw adeg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr amcangyfrif yw bod 695,000 o ddynion yng Nghymru a Lloegr wedi profi camdriniaeth ddomestig y llynedd

Dywedodd dioddefwr arall, Dave, ei fod wedi cael ei wneud i deimlo'n "dda i ddim" a bod ei bartner wedi bygwth gadael gyda'u plant.

"Fe wnaeth hi fy nharo i unwaith, a phan wnes i lwyddo i'w gwthio hi oddi arna i, fe aeth hi i alw'r heddlu," meddai.

"Mae'n debyg bod ei ffrind wedi dweud wrthi, 'os wyt ti eisiau cael gwared ar dy ŵr dechreua ffrae, galwa'r heddlu ac fe wnawn nhw ei daflu o'r tŷ'."

'Ymddangos yn wan'

Dywedodd Dr Sarah Wallace o Brifysgol De Cymru bod nifer o resymau pam dyw dioddefwyr camdriniaeth ddomestig - dynion a merched - ddim yn adrodd y troseddau, gan gynnwys diffyg hyder yn yr heddlu ac ymateb posib y partner.

"Mae'r broblem o beidio adrodd y drosedd hyd yn oed yn waeth ymysg dynion," meddai.

"Maen nhw'n poeni am ymddangos yn wan, a dyma oedd profiadau'r dynion roedden ni'n eu cyfweld."

Mae sesiynau Calan i ddynion yn canolbwyntio ar gael y dioddefwyr i sylweddoli eu bod hwythau yn gallu dioddef camdriniaeth, gan roi pwyslais hefyd ar stereoteipiau'r rhywiau.

'Dioddef yn dawel'

Dywedodd Mr Dix-Williams bod nawdd cynllun Cwmpas yn dod i ben yn fuan, a bod sicrwydd ariannol yn hanfodol i barhau â'u gwaith.

"Ry'n ni'n gwybod bod camdriniaeth ddomestig yn erbyn dynion yn drosedd sydd ddim yn cael ei adrodd yn llawer rhy aml," meddai.

"Mae'n codi'r cwestiwn, faint mwy o ddynion sy'n dioddef yn dawel?"

Gall dioddefwyr camdriniaeth ddomestig gysylltu â Calan, dolen allanol neu linell gymorth Byw Heb Ofn, dolen allanol ar 0808 801 0800.