Storm Freya: Gwyntoedd cryfion yn taro Cymru
- Cyhoeddwyd

Cafodd ceir eu dargyfeirio oddi ar yr A465 oherwydd llifogydd
Bu ffyrdd ar gau a channoedd o dai heb drydan wrth i Storm Freya daro Cymru ddydd Sul.
Roedd rhagolygon wedi rhybuddio fod arfordir gorllewinol y wlad yn debygol o brofi'r gwaethaf o'r tywydd garw - gyda gwyntoedd hyd at 80mya i'w disgwyl.
Caewyd pum milltir o'r A465 rhwng Hirwaun a Glyn-nedd gan yr heddlu oherwydd llifogydd.
Ar un adeg ddydd Sul, roedd hyd at 700 o dai yn y de heb drydan.
Yn ogystal cafodd traffig ei ddargyfeirio oddi ar yr M4 rhwng cyffyrdd 41 a 42 oherwydd gwynt ar bont Llansawel.
Cafodd terfyn cyflymder ar Bont Hafren ei ostwng i 40mya mewn mannau gyda'r brif ffordd i gyfeiriad y gorllewin wedi cau oherwydd gwyntoedd.
Cafodd Pont Cleddau yn Sir Benfro hefyd ei gau a bu yna gyfyngiadau cyflymder ar Bont Britannia.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd - am wyntoedd fydd yn chwythu o gyfeiriad y gorllewin - mewn grym rhwng 15:00 ddydd Sul a 06:00 fore Llun.
Cafodd teithwyr eu rhybuddio bod oedi a thrafferthion wrth deithio yn debygol mewn mannau.

Rhybuddiodd Heddlu'r De yrwyr i fod yn ofalus wedi damwain ar draffordd yr M4 ger Pen-y-bont ar Ogwr
Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod angen i bobl fod yn wyliadwrus o beryglon posib.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2018