Enwau Cymreig stormydd am y flwyddyn i ddod

  • Cyhoeddwyd
StormFfynhonnell y llun, Tim Bow
Disgrifiad o’r llun,

Storm Hercules yn taro pier Porthcawl yn 2014

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r enwau fydd yn cael eu rhoi ar stormydd am y flwyddyn 2018/19.

Mae'n rhan o ymgyrch y Swyddfa Dywydd a Met Éireann yn Iwerddon i enwi storm pan mae'n cyrraedd lefelau sy'n debygol o achosi difrod sylweddol i Brydain ac Iwerddon.

Ymysg yr enwau o darddiad Cymreig ar y rhestr o 21 eleni mae Gareth, Idris, Tristan a Wyn.

Mae'r stormydd yn cael eu henwi yn nhrefn y wyddor - oni bai am Q, U, X, Y, a Z.

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd

Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae ymchwil yn dangos bod 77% o bobl ym Mhrydain yn credu bod enwi stormydd yn ffordd ddefnyddiol o godi ymwybyddiaeth o beryglon tywydd eithafol.

Cafodd wyth storm eu henwi y llynedd, o Aileen ym mis Medi i Hector ym mis Mehefin.

Mae'n eithaf tebygol felly y bydd Gareth ac Idris yn taro yn y misoedd i ddod - dim ond gobeithio y daw Tristan a Wyn ddim yn agos.

Hefyd o ddiddordeb: