Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Chesterfield

  • Cyhoeddwyd
Akil Wright
Disgrifiad o’r llun,

Akil Wright sgoriodd unig gôl y gêm

Roedd gôl Akil Wright yn ddigon i gadw lle Wrecsam ar frig y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Chesterfield.

Sgoriodd Wright unig gôl y gêm wedi iddo benio croesiad Luke Young toc wedi awr o chwarae.

Mae tîm Bryan Hughes bum pwynt yn glir ar frig y gynghrair, er bod Leyton Orient a Solihull Moors wedi chwarae dwy gêm yn llai.