PRO14: Gleision 26-19 Southern Kings

  • Cyhoeddwyd
Nick WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd y capten Nick Williams un o geisiau'r Gleision

Bu'n rhaid i'r Gleision frwydro'n galed am eu buddugoliaeth yn erbyn Southern Kings yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Er i'r asgellwr Owen Lane sgorio gyda symudiad cyntaf y gêm i'r tîm cartref, fe aeth yr ymwelwyr o Dde Affrica ar y blaen gyda cheisiau gan Dries van Schalkwyk a Michael Willemse.

Ond, mewn tywydd garw, fe frwydrodd y tîm o'r brifddinas yn ôl i gael y fuddugoliaeth a phwynt bonws gyda cheisiau gan y capten Nick Williams, Olly Robinson a Jason Harries.

Fe gipiodd y Kings bwynt bonws hwyr hefyd diolch i gais Masixole Banda.

Mae'r Gleision bellach yn lefel ar bwyntiau â Connacht yn Adran A.