'Cost misglwyf yn rhy ddrud i nifer,' medd undeb myfyrwyr

  • Cyhoeddwyd
Sanitary products on a shelfFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ddiweddar fe gyfrannodd Llywodraeth Cymru £1m at gost cynhyrchion adeg misglwyf

Mae rhai merched yn gorfod defnyddio sanau a phapur cegin yn ystod eu misglwyf, yn ôl Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM).

Mae'r undeb yn dweud nad yw'r mesurau presennol i ddelio â thlodi yn ddigonol - a bod prisiau tampons a chynhyrchion eraill i ddelio gyda misglwyf yn rhy ddrud.

Yn ôl astudiaeth gan UCM dywedodd 83% o ferched bod y cynhyrchion yn gostus.

Dywedodd Dirprwy Brif Chwip Llywodraeth Cymru Jane Hutt bod hi'n "annerbyniol" i bobl beidio gallu cael cynhyrchion addas yn ystod misglwyf.

Mae'r undeb, sy'n cynrychioli 350,000 o fyfyrwyr yng Nghymru, yn galw am well addysg ar "amser o'r mis'" ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddelio â thlodi misglwyf.

'Cywilydd ac ofn'

Roedd cost misglwyf yn broblem i Laura a Samantha, nid eu henwau iawn, yn ystod eu harddegau.

Dywedodd Laura o Fro Morgannwg nad oedd ei mam yn gallu fforddio prynu tywelion ac felly yn aml roedd yn rhaid iddi fyw hebddynt.

"Roedd hi'n anodd," meddai, "i mam gael dau ben llinyn ynghyd - felly roedd cost cynhyrchion ar gyfer misglwyf yn gost ychwanegol.

"Roedd gen i gywilydd ac roeddwn i ofn ac yn ifanc iawn - dim ond 10 oed. Doeddwn i ddim yn teimlo'n ddigon hen i ddelio â'r cyfan - pan dwi'n edrych nôl ar bethau roedd hi'n sefyllfa dorcalonnus am nad oedd Mam yn gallu helpu fi mewn modd yr oedd disgwyl iddi."

'Damwain ar y trên'

Dywedodd Samantha o Aberystwyth nad oedd hi weithiau yn gallu fforddio tampons na thyweli yn ystod ei harddegau.

Dywedodd: "Doedd fy rhieni ddim yn dlawd nac yn gyfoethog. Aeth fy mrawd i brifysgol ac roedd fy rhieni yn benderfynol o dalu am ei lety a pethau eraill fel nad oedd rhaid iddo gael benthyciad.

"Yn ystod fy mhlentyndod doeddwn i byth yn gorfod mynd heb fwyd ond roedd hynny'n golygu nad oeddwn i weithiau yn gallu prynu tywelion.

"Unwaith ges i ddamwain ar drên oherwydd fy mod yn defnyddio hances yn lle tywel. Ges i ofn mawr a nawr bob tro dwi'n cael misglwyf dwi'n ofni bod y gwaed yn mynd i ollwng."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd swyddog merched UCM Cymru, Chisomo Phiri: "Dylai fod gennym gywilydd yng Nghymru yn 2019 os yw merch yn colli urddas am nad yw'n gallu fforddio cynhyrchion misglwyf.

"Rhaid cael strategaeth a buddsoddiad parhaol gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn gwneud 'tlodi misglwyf' yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol."

'Hollol annerbyniol'

Dywedodd y Dirprwy Brif Chwip Jane Hutt: "Mae'n hollol annerbyniol i unrhyw un beidio cael deunydd addas yn ystod misglwyf am nad ydynt yn gallu eu fforddio.

"Ry'n wedi'n hymrwymo fel llywodraeth i wneud popeth posib er mwyn delio â sefyllfa cwbl dianghenraid.

"Y llynedd fe roddon i dros £1m i ddelio â thlodi misglwyf yn ein cymunedau ac er mwyn gwella yr adnoddau sydd ar gael mewn ysgolion i sicrhau urddas i bobl ifanc.

"Bydd awdurdodau lleol yn derbyn £440,000 hyd at 2020 er mwyn delio â thlodi misglwyf - bydd yr arian yn cael ei wario i brynu cynhyrchion addas i bobl na sy'n gallu eu fforddio."