Llosgi llenni a chwpwrdd ddechreuodd tân gwesty Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Damion HarrisFfynhonnell y llun, Damion Harris/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Damion Harris bledio'n euog i ddynladdiad

Mae llys wedi clywed bod dyn wedi dechrau tân laddodd dyn mewn gwesty yn Aberystwyth drwy losgi llenni a chwpwrdd ddillad.

Mae Damion Harris wedi cyfaddef dynladdiad Juozas Tunaitis, oedd yn westai, llosgi bwriadol ac achosi niwed corfforol difrifol i westai arall wnaeth ddisgyn 35 troedfedd o do gwesty Belgrave House wrth geisio dianc.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Harris, 31, wedi ei weld ar gamerâu cylch cyfyng ar 25 Gorffennaf 2018 yn "cynnau tân yn fwriadol i'r llenni".

Dywedodd yr erlynydd Michael Jones QC bod Harris yna wedi dechrau "ail dân bwriadol mewn cwpwrdd yn y seler".

Yr ail dân oedd prif achos y dinistr yn y gwesty, meddai Mr Jones.

Gweddillion yn y seler

Roedd 16 o bobl yn aros yn y gwesty ar noson y digwyddiad, gan gynnwys plant ifanc.

Roedd Mr Tunaitis, o Lithwania, yn aros yn y gwesty tra'n gweithio fel swyddog diogelwch tân ym Mhrifysgol Aberystwyth adeg y digwyddiad.

Yn yr oriau cyn y tân, cafodd Harris ei weld mewn sawl lleoliad yn y dref, yn cynnwys tafarn a chlwb nos, ac roedd "yn amlwg wedi cymryd rhyw fath o sylwedd meddwol".

Ffynhonnell y llun, Keith Morris
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 12 o bobl eu hachub yn dilyn y tân yn Nhŷ Belgrave

Cerddodd drwy ddrws ffrynt y gwesty am tua 02:00 cyn edrych ar wrthrychau ar y waliau ac mewn cypyrddau.

Rhoddodd blanhigyn mewn potyn i ddal y drws ar agor cyn mynd i fyny'r grisiau gyda chwistrell tân.

Pan ddychwelodd i lawr y grisiau, dechreuodd y tân ar y llenni.

Gadawodd yr adeilad 14 munud ar ôl cyrraedd.

Clywodd y llys bod Mr Tunaitis wedi ei weld yn un o ffenestri'r adeilad, a bod cydweithwyr wedi ei annog i neidio i lawr.

Aeth yn ôl i mewn i'r adeilad ac ni gafodd ei ddarganfod tan bron i ddeufis yn ddiweddarach, ar 10 Medi.

Cafodd ei weddillion eu darganfod yn y seler oherwydd bod lloriau'r adeilad wedi cwympo, ac roedd rhaid ei adnabod drwy brawf DNA.

Disgyn 35 troedfedd

Clywodd y llys bod Richard Simnett wedi ei "anafu'n ddifrifol" pan ddisgynnodd o do'r adeilad.

Roedd yn aros gyda'i bartner a'i ddau fab, oedd yn bedair a phump oed.

Dringodd y grŵp ar y to ar ôl ceisio gadael drwy'r adeilad, ond llithrodd Mr Simnett a disgyn 35 troedfedd i'r ddaear.

Er iddo sefyll i fyny ar unwaith oherwydd ei bryder am ei blant, clywodd y llys iddo dorri pedwar asgwrn yn ei gefn, saith asen, ei fraich, pont yr ysgwydd a'i sternwm.

Mae disgwyl i Harris gael ei ddedfrydu'r wythnos nesaf.