Tân Aberystwyth: Dyn yn pledio'n euog i ddynladdiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi pledio'n euog i ddynladdiad yn dilyn marwolaeth dyn arall mewn tân difrifol mewn gwesty yn Aberystwyth.
Fe wnaeth Damion Harris, 31 o Lanbadarn, hefyd bledio'n euog i losgi bwriadol ac achosi niwed corfforol difrifol yn ystod y digwyddiad yn Nhŷ Belgrave ar 25 Gorffennaf 2018.
Cafodd corff Juozas Tunaitis ei ddarganfod yn y gwesty bron i ddeufis wedi'r tân, ar ôl i swyddogion sicrhau bod yr adeilad yn ddigon diogel i'w archwilio.
Roedd Mr Tunaitis, contractwr o Lithwania, wedi bod yn gweithio fel swyddog diogelwch tân ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cafodd 12 o bobl eu hachub o'r safle yn ddiogel.
Mae'r achos yn Llys y Goron Abertawe bellach wedi ei ohirio a bydd Harris yn cael ei ddedfrydu ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd14 Medi 2018
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2018