Ymchwil newydd yng Nghymru ar 'ddallineb wynebau'
- Cyhoeddwyd
Feddyliodd Boo James ddim byd o'r dieithryn wnaeth godi llaw arni ar y bws - tan iddi ddarganfod mai ei mam oedd hi.
Mae ganddi gyflwr cymharol brin o'r enw prosopagnosia neu Ddallineb Wynebau; sy'n golygu nad ydy hi'n adnabod wynebau ei theulu, ffrindiau na'i hwyneb ei hun.
Bellach mae Prifysgol Abertawe yn gofyn i bobl sy'n cael trafferth adnabod wynebau i gysylltu â nhw, yn y gobaith o allu hyfforddi pobl fel Boo i allu adnabod pobl yn well.
Am flynyddoedd roedd Boo, sydd o Gasllwchwr, Abertawe, yn teimlo fel ei bod "o blaned arall".
"Mae'n waith caled iawn. Mae'n gallu bod yn flinedig yn gorfforol ac emosiynol i dreulio diwrnod allan yn meddwl o hyd os y dylwn i fod wedi siarad â rhywun," meddai.
Ddim yn ymwybodol o'r cyflwr
Am ran helaeth o'i bywyd, doedd ganddi ddim syniad bod ganddi'r cyflwr. Roedd hi'n beio'i hun am y chwithigrwydd oedd yn cael ei achosi pan oeddi'n methu ag adnabod pobl.
"Mi oeddwn i'n gorfod darganfod ffordd o esbonio hynny. Doeddwn i ddim yn dda iawn am wneud - dim ond meddwl mai fi oedd ar fai am beidio trafferthu i gofio pwy oedd pobl."
Daeth pethau i'r amlwg pan oedd Boo yn ei 40au cynnar, pan welodd hi eitem newyddion am y cyflwr.
"Roeddwn i'n gwybod bryd hynny mai'r unig reswm nad oeddwn i'n adnabod pobl oedd oherwydd nad oedd fy ymennydd i'n gallu gwneud," meddai.
Mae'n dweud bod ei phlentyndod wedi bod yn llawn profiadau trawmatig gyda phlant eraill, gofalwyr ac athrawon nad oedd hi'n gallu adnabod.
Hyd yn oed nawr, yn 51 oed, mae'n dweud ei bod yn ei chael hi'n anodd adnabod teulu a ffrindiau, gan gynnwys methu ac adnabod ei thad tra'n ei gyfarfod ar wyliau.
Ond mae hefyd yn ei chael hi'n anodd adnabod pobl mwy elfennol.
"Yn ddiweddar, dywedodd fy mam ei bod wedi darganfod hen luniau ar ei chyfrifiadur, felly roedden ni'n edrych arnyn nhw ar y sgrîn.
"Roedd hi'n siarad am un person mewn llun a dywedais i - 'iawn, ond pwy ar y ddaear ydy'r person arall?'
"Dywedodd hi, 'wel ti ydy hi!'"
Gweld 'rhannau' o wynebau
Mae'r rhai sydd â'r cyflwr yn ei chael hi'n anodd disgrifio sut maen nhw'n gweld wynebau.
"Rydw i'n gweld rhannau o wyneb. Rydw i'n gweld bod yna drwyn, rydw i'n gweld bod llygaid a cheg a chlustiau.
"Ond mae'n anodd i fy ymennydd gadw'r cyfan gyda'i gilydd fel llun o wyneb."
Mae hi nawr yn gweithio o'i chartref fel awdures ac mae'n dweud bod y cyflwr wedi cael effaith ar ei gyrfa, gan wneud ei chyfnod yn gweithio mewn siopau ac fel derbynnydd yn "anodd iawn".
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae academyddion sy'n cynnal gwaith ymchwil newydd yn awyddus i siarad gyda phobl sydd â phrofiad o anawsterau yn adnabod wynebau.
Yn aml, dydy pobl ddim yn sylweddoli bod ganddyn nhw prosopagnosia.
Esboniodd y seicolegydd o Brifysgol Abertawe, Dr John Towler: "Dyma'r math o bobl sy'n ei chael hi'n anodd yn dilyn ffilmiau.
"Efallai eu bod yn gwylio Game of Thrones a bod gan rywun wallt hir a barf a does ganddyn nhw ddim syniad beth sy'n mynd ymlaen.
"Dim ond trwy godi ymwybyddiaeth o prosopagnosia y mae pobl yn dechrau sylweddoli 'efallai mai dyna fi'."
Mae dau fath o brosopagnosia:
Mae prosopagnosia caffaeledig yn ganlyniad o anaf i'r ymennydd sy'n rheoli adnabyddiaeth o wynebau.
Mae prosopagnosia datblygiadol, sy'n effeithio rheiny sydd â Dallineb Wynebau ers eu geni, yn ganlyniad i ddiffyg yn y cysylltiad rhwng rannau gwahanol o'r ymennydd.
Yn ôl Dr Jodie Davies-Thompson, sy'n rhan o'r tîm ymchwil: "Os ydyn ni'n gallu darganfod pa ran o'r ymennydd, yn union, sy'n mynd o'i le, rydyn ni wedyn yn gallu edrych ar ddatrys y broblem.
"Rydyn ni'n gweithio yma yn Abertawe ar ddatblygu cynlluniau adfer ar gyfer pobl sydd â prosopagnosia.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd hynny'n cynyddu'r cysylltiadau rhwng y rhannau [o'r ymenydd] a felly'n cynyddu eu gallu i adnabod wynebau."
Mae'r grŵp Face Blind UK yn dweud bod profiadau pobl fel Boo yn gyffredin ac mae codi ymwybyddiaeth yn helpu'n fawr.
"Os ydy eraill yn ymwybodol o'r problemau, maen nhw'n gallu dechrau deall ac hyd yn oed cynnig cymorth," meddai'r llefarydd Hazel Plastow.