£2m i ofal iechyd meddwl ym mhrifysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd
Iechyd meddwlFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n datgelu materion iechyd meddwl

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £2m mewn gofal iechyd a lles myfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru.

Bwriad y buddsoddiad yw darparu cymorth ariannol i hyfforddi staff ym maes lles ac iechyd meddwl, gan gryfhau'r gwasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams y bydd y cyllid yn rhoi "hwb i'r gofal a'r gefnogaeth" sy'n cael ei ddarparu gan brifysgolion.

Ond mae eraill wedi rhybuddio bod angen rhoi blaenoriaeth i fwy o wasanaethau yn Gymraeg.

Dywedodd Ms Williams: "I'r rhan fwyaf o fyfyrwyr, mae mynd i'r brifysgol yn brofiad llawen - sy'n cynnwys ffrindiau newydd, dewis llwybrau gyrfa a dysgu gwersi, yn y ddarlithfa a'r tu allan iddi.

"Ond, mae hefyd yn gyfnod o newid sy'n gallu golygu gorfod wynebu heriau fel byw i ffordd o'r cartref am y tro cyntaf, rheoli arian neu ymdopi â phwysau arholiadau.

"Bydd y cyllid hwn yn cryfhau'r gofal a'r cymorth y mae prifysgolion yn eu darparu i fyfyrwyr, trwy ymyrryd neu gynnig cymorth iddyn nhw os bydd neu pan fydd angen, ac yn eu helpu i gyflawni eu huchelgeisiau a manteisio i'r eithaf ar eu profiad yn y brifysgol heb unrhyw rwystrau."

Disgrifiad o’r llun,

Y Gobaith yw y bydd y cyllid yn rhoi "hwb i'r gofal a'r gefnogaeth" sy'n cael ei ddarparu gan brifysgolion

Un sy'n croesawu'r buddsoddiad ydy Gwyneth Sweatman, Llywydd NUS Cymru.

"Rwy'n gobeithio y gall prifysgolion ddefnyddio'r arian i wella'r cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr, fel rhai dwyieithog a chymorth ar-lein," meddai.

'Gwneud y Gymraeg yn flaenoriaeth'

Ym mis Mai 2018, fe ysgrifennodd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCMC) at Lywodraeth Cymru yn galw arnynt i wella gwasanaethau iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr.

Dywedodd Gethin Morgan, sy'n swyddog gydag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor ac UCMC, ei fod yn croesawu'r newyddion ond ychwanegodd "ar ôl dweud hynny mae angen bod yna flaenoriaeth yn cael ei roi i ddarparu gwasanaethau Cymraeg trwy Gymru".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r buddsoddiad i'w groesawu ond mae mwy eto i'w wneud o ran y Gymraeg, medd Gethin Morgan o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor

"Mae angen i'r Gymraeg gael ei wneud yn flaenoriaeth, Rydym yn gwybod o fewn cymunedau Cymraeg fod yna lai o barodrwydd i fynd am gymorth a bod yna deimlad o fwy o stigma, felly mae angen gwasanaethau Cymraeg," meddai.

"Mae arweinwyr undebau myfyrwyr yn y gorffennol wedi galw am wasanaethau Cymraeg ac mae'n hen bryd fod rhywbeth yn cael ei wneud am y peth."

'Mynd i'r afael â heriau'

Dywedodd cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, Amanda Wilkinson: "Mae'r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud gan wasanaethau lles a chymorth i fyfyrwyr ar draws prifysgolion Cymru wedi gwneud argraff fawr iawn ar Prifysgolion Cymru, yn enwedig mewn amgylchedd heriol lle y mae'r gyfran o'r bobl sy'n datgelu materion iechyd meddwl wedi cynyddu'n sylweddol ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.

"Eleni, mae prifysgolion yng Nghymru wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ddatblygu dull ar gyfer Cymru gyfan i hyrwyddo iechyd meddwl a lles da.

"Mae'r cyhoeddiad heddiw i'w groesawu'n fawr, a bydd yn helpu prifysgolion yng Nghymru i fynd i'r afael â'r heriau cymhleth yn y meysydd hyn."