Scarlets: 'Uno rhanbarthau ddim yn digwydd'

  • Cyhoeddwyd
Ken Owens ac Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Nid yw'r ddau ranbarth rygbi yn y de orllewin yn mynd i uno fel rhan o ad-drefnu arfaethedig o'r gêm yng Nghymru, yn ôl y Scarlets.

Fe wnaeth y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) gyfarfod ddydd Mawrth er mwyn trafod y posibilrwydd o uno'r Scarlets a'r Gweilch a chreu rhanbarth newydd yn y gogledd.

Dywedodd y Gweilch nad oedden nhw'n agos at gytundeb i uno gan feirniadu ymgais "ddryslyd" a "di-glem" i ailstrwythuro - rhywbeth gafodd ei gwestiynu gan y PRB.

Mewn e-bost at gefnogwyr ddydd Mercher, dywedodd y Scarlets eu bod wedi cytuno ar delerau i uno gyda'r Gweilch yn gynharach yn y mis, ond bod yr uno bellach ddim yn digwydd.

Pe bai'r trafodaethau yn llwyddiannus byddai pedwar rhanbarth proffesiynol yn parhau i weithredu yng Nghymru - un yr un yn y gogledd, de, gorllewin a dwyrain.

Ers y cyhoeddiad mae hi wedi dod i'r amlwg bod nifer o chwaraewyr proffesiynol yn poeni'n ofnadwy am gynlluniau i ad-drefnu.

'Wedi cytuno ar delerau'

Dywedodd y Scarlets mewn datganiad: "Gallwn ni gadarnhau fod sylwadau'r PRB ddydd Mawrth yn gywir... a bod y syniad o uno wedi ei wthio gan y rhanbarthau.

"Ym mis Rhagfyr, derbyniodd y Scarlets gais gan y Gweilch i ystyried uno oherwydd problemau oedd yn deillio o fod yn denantiaid yn Stadiwm Liberty."

Ar ôl i'r trafodaethau gwreiddiol yna fethu, dywedodd y Scarlets iddynt dderbyn cais gan y Gweilch ar ddiwedd mis Chwefror i ailystyried y mater.

Aeth y Scarlets ymlaen i ddweud: "Fe wnaeth y ddau glwb gytuno ar delerau ar 1 Mawrth, telerau yr oedden ni o'r farn y byddai cefnogwyr o'u plaid...

"Ond cawsom wybod yng nghyfarfod y PRB ddydd Mawrth fod y Gweilch wedi newid eu meddwl."

Yn dilyn yr ansicrwydd, mae'r datganiad yn dweud: "Nid yw'r uno yn mynd i ddigwydd."

Ychwanegodd y Scarlets eu bod yn benderfynol o wneud eu gorau ar gyfer y rhanbarth a'r gêm broffesiynol yng Nghymru.

Ddydd Mercher fe wnaeth nifer o ACau ac ASau o ranbarth y Gweilch ysgrifennu llythyr i brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips, yn mynegi eu pryder.

Roedd y llythyr yn galw arno i "edrych ar bobl llwybr posib ac i wneud popeth o fewn ei allu" i gadw'r Gweilch mewn bodolaeth.