'Hyder' am ffitrwydd Gareth Bale ar gyfer gêm Slofacia

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae disgwyl i Gareth Bale fod yn holliach ar gyfer gêm ragbrofol gyntaf Euro 2020 Cymru yn erbyn Slofacia ar 24 Mawrth.

Fe wnaeth Bale, 29, anafu ei bigwrn yn ystod colled Real Madrid yn erbyn Ajax yng Nghynghrair y Pencampwyr nos Fawrth.

Roedd yr ymosodwr yn cael trafferth rhedeg ar ddiwedd y gêm ac mae disgwyl iddo fethu gêm Real yn erbyn Valladolid ddydd Sul.

Mae ffynonellau yn agos i Bale wedi dweud eu bod yn hyderus y bydd yn barod i wynebu Slofacia.

Cyn y gêm ragbrofol hollbwysig bydd carfan Ryan Giggs yn teithio i Wrecsam ar gyfer gêm gyfeillgar ar y Cae Ras yn erbyn Trinidad a Tobago ar 20 Mawrth.