Agor ffordd newydd ger pencadlys S4C yng Nghaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Mae canolfan Yr Egin wedi ei lleoli ar dîr Prifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y ffordd gyswllt yn buddio staff canolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin

Mae ffordd newydd sy'n cysylltu pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin gyda'r ffordd ddeuol A40 wedi agor ar ôl oedi o tua 12 mis.

Dechreuodd y gwaith ar y ffordd gyswllt yn 2015 ond roedd yna oedi dros drafodaethau gyda pherchenogion tir.

Roedd y gyllideb wreiddiol yn £5m ond mae costau bellach wedi tyfu i £6.15m.

Dywedodd Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, fod y ffordd gyswllt yn dod â "budd economaidd pwysig" i'r ardal.

1,000 o dai newydd

Yn ogystal â chysylltu pencadlys S4C yn Yr Egin i'r A40 bydd yn gwasanaethu campws Caerfyrddin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae Persimmon Homes hefyd yn bwriadu adeiladu 1,000 o gartrefi newydd yno.

Bydd y ffordd newydd yn cysylltu'r A40 ger Travellers Rest â Ffordd y Coleg gan olygu y bydd mynediad uniongyrchol i yrwyr i ffyrdd llai lle mae swyddfeydd fel Parc Dewi Sant a champws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Dyma fydd y ffordd gyswllt i staff fydd yn gweithio ym mhencadlys newydd S4C, Yr Egin.