Alun Wyn Jones: Cymru â 'gwaith i'w wneud'

  • Cyhoeddwyd
alun wyn jones

Mae capten tîm rygbi Cymru yn dweud mai curo'r Alban ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yw blaenoriaeth aelodau'r garfan, yn hytrach na thrafodaethau'r wythnos hon ynghylch y posibilrwydd o ailstrwythuro rhanbarthau rygbi Cymru,

Dywed Alun Wyn Jones bod gan y tîm "waith i'w wneud" wrth baratoi ar gyfer gêm ddydd Sadwrn yn stadiwm Murrayfield.

"Yn amlwg, mi ydan ni eisiau mwy o atebion ar ddiwedd y Chwe Gwlad, ond mae gennym ni waith i'w wneud," meddai.

"Ar ddiwedd y dydd, rydym yn bobl rygbi proffesiynol ac rydym yn canolbwyntio ar y rygbi. Na'r peth hawdd. 'Dyn ni ddim yn wleidyddion, felly does dim rhaid i ni fynd yn ormodol i hynny."

Mae'r ddadl dros ranbarthau rygbi Cymru wedi hawlio'r penawdau yn yr wythnos ddiwethaf, gyda'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) yn trafod y posibilrwydd o uno'r Scarlets a'r Gweilch.

Fe fyddai buddugoliaeth yn erbyn Yr Alban yn golygu bod Cymru gam yn nes at ennill y bencampwriaeth eleni ar ôl iddyn nhw guro Lloegr yn eu gêm ddiwethaf.

Fe fydd Cymru yn wynebu'r Alban am 14:15, dydd Sadwrn 9 Fawrth.