Gwaredu 145 anifail anwes ers y Nadolig - yn eu plith 92 ci

  • Cyhoeddwyd
Abandoned pugsFfynhonnell y llun, RSPCA Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae dau gi pwg yn gwella wedi iddyn nhw gael eu taflu allan o ffenest car yn Wrecsam

Mae RSPCA Cymru yn gofyn i bobl sy'n cael trafferth ymdopi â'i hanifeiliaid i ofyn am gymorth wedi i 145 anifail anwes gael eu gadael ers Nadolig - yn eu plith 92 o gŵn.

Daw'r alwad wedi i ddau gi pwg gael eu taflu o ffenest car ar groesfan yn ardal Wrecsam.

Dywed canolfannau achub bod mwy o anifeiliaid yn cael eu trosglwyddo iddyn nhw - a dyna'r peth mwyaf cyfrifol i'w wneud, medd RSPCA Cymru.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae ffigyrau yn dangos bod mwy o gŵn yn cael eu gadael yn Ionawr i gymharu â Rhagfyr: o 91 i 112 yn 2016/2017; 112 i 113 yn 2017/2018 ac 83 i 92 yn 2018/2019.

Ond yn ôl y Gymdeithas Er Atal Creulondeb i Anifeiliaid mae gadael anifeiliaid yn broblem drwy'r flwyddyn - ymhlith y rhesymau mae cael digon ar yr anifail wedi'r Nadolig a methu â dod o hyd i ofal iddynt tra'n mynd ar wyliau yn ystod yr haf.

Ffynhonnell y llun, RSPCA Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae sglodyn i fod ar gŵn sy'n golygu y dylai fod yn bosib dod o hyd i'r perchennog

Ar Chwefror 20, gwelodd aelod o'r cyhoedd ddau gi pwg yn cael eu taflu allan o gar coch wrth groesfan yn Wrecsam.

Aed â'r ddau i ofal yr RSPCA ac roedd sglodyn un o'r cŵn yn dweud bod ei berchennog yn byw yn Essex.

Dywedodd yr arolygydd Rachael Davies: "Byddai hyn yn brofiad ofnus a thrawmatig i'r ddau gi yma.

"Mae hyn yn ffordd ofnadwy i drin anifeiliaid."

145 galwad ym mis Ionawr

Mae nifer o resymau pam fod pobl yn dewis gadael eu hanifeiliaid yn ôl Martyn Hubbard o RSPCA Cymru.

Dywedodd: "Yn drist mae rhai anifeiliaid yn cael eu gadael heb unrhyw ofal, mae eraill yn cael eu hysbysebu ar-lein naill ai am ddim neu am dâl.

"Pan nad yw perchnogion yn gallu ymdopi, efallai oherwydd ymddygiad yr anifail neu'r costau, maent yn dewis i gael gwared ohono."

Ym mis Ionawr, derbyniodd RSPCA Cymru y rhan fwyaf o alwadau (13) am adael cŵn yng Nghaerdydd - roedd yna naw galwad yn Nhorfaen a'r un ym Mro Morgannwg.

Mae pob awdurdod lleol yn darparu gwasanaeth warden cŵn a'u cyfrifoldeb nhw yw delio â chŵn strae.

Dywed RSPCA Cymru nad oes ganddynt yr adnoddau i godi pob ci iach ond maent yn annog unrhyw un sy'n gweld ci sâl neu gi wedi'i anafu i gysylltu â nhw.

Dywedodd llefarydd y dylai pob ci, yn ôl gofynion y gyfraith, fod â sglodyn micro, coler a manylion cyswllt y perchennog.

Fe gafodd RSPCA Cymru 129 galwad ym mis Rhagfyr diwethaf ac 145 yn ystod mis Ionawr eleni.