Cwpwl yn dweud bod 'rhaid' gadael Cymru oherwydd Brexit

  • Cyhoeddwyd
brexit couple
Disgrifiad o’r llun,

Fe adawodd Geraint a Gwenan Owain eu cartref yng Nghymru dros y penwythnos

Mae cwpwl o Ddyffryn Clwyd wedi gadael Cymru i fyw yn Ffrainc - gan ddweud gan eu bod yn pryderu am effaith Brexit ar eu rhyddid i symud.

Mae Gwenan a Geraint Owain yn teimlo eu bod wedi cael eu gorfodi i ddewis rhwng y ddwy wlad gyda Phrydain ar fin gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae gan y cwpwl dŷ yn Ffrainc ac maen nhw wedi teithio yn gyson yno, ond maen nhw wedi penderfynu symud i fyw yno yn barhaol oherwydd ansicrwydd ynghylch y newid posib mewn rheolau teithio.

Cyn iddyn nhw adael fe ddywedodd Mrs Owain wrth BBC Cymru: "Fydd hi'n sobor o anodd gadael oherwydd bod gennyn ni deulu a ffrindiau yma."

"Dim ar chwarae bach mae rhywun yn gwneud y penderfyniad yma."

'Dim dewis'

Dywedodd Mr Owain: "Yr hyn sydd yn neud y gwahaniaeth mawr i ni ydi dyfodiad Brexit, boed yn Frexit wedi'i gynllunio neu yn Frexit sydyn, a'r tarfu ar hawliau pobol i drafaelio.

"Dyna ydi un o'r prif betha' sydd yn neud hi'n anodd iawn dal ati o fewn y drefn 'dan ni wedi arfer ag o."

Dywedodd Mrs Owain: "'Dan ni wedi pwyso a mesur, oedi, aros am ganlyniad y pleidleisio, y bleidlais ystyrlon yma - 'dan ni dal ddim yn gwybod be fydd y penderfyniad yn y pen draw, ond rhaid i ni wneud penderfyniad.

"Yn ein sefyllfa ni, does ganddo ni ddim dewis, mae'n rhaid i ni fynd."