Tân mewn gweithdy trin ceir ym Mhen-y-bont ar Ogwr

  • Cyhoeddwyd
Gweithdy Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gweithdy nos Sul

Mae'r gwasanaethau brys wedi treulio oriau dros nos yn delio â thân mawr mewn gweithdy trin ceir ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd naw o griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru - gan gynnwys rhai o Aberdâr, Caerdydd a Chaerffili - eu danfon i'r safle yn Y Rhes Awstraliaidd, ger Ffordd Coity tua 21:15 nos Sul.

Roedd y tân dan reolaeth erbyn 03:00, ac mae'r gwasanaeth yn dweud bod dim adroddiadau bod unrhyw un wedi cael anaf.

Roedd yr heddlu wedi rhybuddio trigolion yr ardal i aros dan do a chau drysau a ffenestri rhag mwg trwchus.

Yn ôl y gwasanaeth tân, fe gafodd nifer o gerbydau eu difrodi gan y fflamau.

Mae swyddogion yn asesu'r sefyllfa ddydd Llun fel rhan o'r ymchwiliad i achos y tân.

Disgrifiad o’r llun,

Cerbyd heddlu ger y gweithdy ben bore Llun