Trydariad busnes llywodraeth yn 'ddiog ac esgeulus'

  • Cyhoeddwyd
Tweet

Roedd cangen o Lywodraeth Cymru yn "hen ffasiwn, diog ac esgeulus" wrth geisio denu buddsoddiad o dramor drwy ddweud fod cyflogau yng Nghymru yn is na rhannau eraill o'r DU, yn ôl un brif economegwyr Ewrop.

Mae trydariad gan Trade and Invest Wales yn dweud fod gweithlu Cymru yn aml yn ennill "hyd at 30% yn llai o gyflogau na rhannau eraill o'r DU".

Mae'r Athro Phil Cooke o Brifysgol Bergen yn Norwy yn dweud bod hynny'n "warthus" ac yn rhoi Cymru yn yr un categori a gwledydd difreintiedig.

Ychwanegodd: "Allwch chi ddim cystadlu â nhw, maen nhw yn rhatach fyth. Mae'n hen ffasiwn ac yn ddiog."

Wrth ymateb, mae'r llywodraeth wedi dweud nad oedd y trydariad gafodd ei yrru gan Trade and Invest Wales yn adlewyrchu ei safbwynt ac maen nhw wedi ei ddileu.

'Sarhaus'

Fe gafodd y trydariad ei anfon allan sawl gwaith gyda lluniau gwahanol.

Er gwaethaf datganiad y llywodraeth, ac er i un trydariad gael ei dynnu i lawr, mae pedwar copi arall gafodd eu hanfon allan ym mis Chwefror yn parhau i fod ar y safle.

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r problemau mwyaf sydd yn economi Cymru yw bod cyflogau yn rhy isel, yn ôl Rhun ap Iorwerth

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr economi fod "dathlu'r ffaith fod cyflogau mor isel yng Nghymru yn sarhaus".

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth: "Un o'r problemau mwyaf sydd gennym ni yn economi Cymru yw bod cyflogau yn rhy isel.

"Rydym eisiau adeiladu ar lefelau cyflogau drwy fuddsoddi mewn sgiliau a drwy wneud ein gweithlu ardderchog hyd yn oed yn fwy cynhyrchiol."

'Goleuni positif'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gweinidogion yn siarad yn aml ynglŷn â Chymru a'i fod yn lle ardderchog i fuddsoddi ac i wneud busnes.

"Ein nod yw gosod Cymru mewn goleuni positif. Doedd y trydariad ddim yn cynrychioli ein cynlluniau marchnata ehangach ac fe gafodd ei dynnu i lawr yn sydyn."