Drilio Gorsaf Bŵer Rheidol yn gwneud bywydau'n 'llanast'
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion pentref ger Aberystwyth yn honni bod rheolwyr gorsaf bŵer yno yn anwybyddu eu pryderon ynglŷn â gwaith drilio sy'n digwydd yn agos at eu cartrefi.
Mae'r trigolion yn dweud eu bod yn pryderu ynglŷn â sŵn, cryniadau a llygredd posib gan fod y drilio yn digwydd ychydig fetrau yn unig o'u tai yn yr hen ardal fwyngloddio yng Nghwmrheidol.
Mae Gorsaf Bŵer Rheidol yn ailosod ceblau allforio trydan o'r orsaf ynni dŵr.
Mae Statkraft - y cwmni o Norwy sy'n berchen ar yr orsaf bŵer - yn dweud bod y gwaith yn hanfodol gan fod y ceblau presennol wedi bod yn eu lle ers 60 blynedd.
Mae disgwyl i'r gwaith bara am 56 o ddiwrnodau, ond mae pobl leol yn dweud y gallai gwaith cysylltiedig barhau nes yr hydref.
'Llanast llwyr'
Dywedodd un o'r trigolion - James Salvona, sydd wedi byw yng Nghwmrheidol am bron i 30 o flynyddoedd - bod y drilio yn tarfu ar lonyddwch y cwm.
"Bydd ein bywydau ni eleni yn llanast llwyr.
"Dydyn nhw ddim yn ein hystyried ni o gwbwl - maen nhw wedi penderfynu ar yr hyn y maen nhw am ei wneud heb feddwl am fy safbwynt i," meddai.
Cafodd plwm ei gloddio yng Nghwmrheidol am ganrifoedd.
Mae'r cofnodion cynharaf yn dangos bod mwyngloddio wedi digwydd yno yn ystod y 18fed ganrif, ond credir bod cloddio yn yr ardal hefyd yn ôl yn ystod yr Oes Efydd.
Cafodd y mwynglawdd olaf ei gau ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf ond mae gwaddol y gweithfeydd yn parhau.
'Iawndal'
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru mae dŵr o'r gweithfeydd tanddaearol yn cynnwys crynodiad uchel o sinc, plwm a chadmiwm.
Mae Mr Salvona yn pryderu y gallai'r drilio achosi llygredd: "Ry'n ni'n gwybod bod y pridd yn yr ardal yn cynnwys llawer o fetelau trwm.
"Rwy'n poeni ynglŷn â'r mwyngloddiau ar y top oherwydd pan rwy'n gofyn i'r cwmni amdanyn nhw does ganddyn nhw ddim atebion, ac rwy'n meddwl bod posibilrwydd y gallan nhw daro un o'r hen weithfeydd wrth ddrilio."
Mae hefyd yn dweud bod yr orsaf bŵer wedi cynnig miloedd o bunnoedd o iawndal iddo fe a'i gymdogion, ar yr amod nad oedden nhw yn siarad gyda phobl eraill.
"Pe tasen i wedi llofnodi'r cytundeb fe fyddan nhw wedi fy nhawelu i. Does gen i ddim cytundeb gyda nhw - dydw i ddim wedi llofnodi dim byd."
Yr opsiwn 'gorau'
Ni wnaeth Statkraft unrhyw sylw ynglŷn â'r honiadau hyn ond mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd bod y gwaith drilio "yn hanfodol i ailosod ceblau allforio trydan sy'n 60 oed erbyn hyn".
"Cafodd sawl opsiwn ei ystyried a chafodd y dull yma ei ddewis mewn ymgynghoriad agos gyda'r awdurdodau lleol. Hwn yw'r dewis gorau, sydd â'r effaith weledol ac amgylcheddol leiaf.
"Mae gan Statkraft y caniatâd a'r trwyddedau perthnasol ar gyfer gwneud y gwaith drilio yma.
"Rydym yn cydnabod y bydd y gwaith yn effeithio trigolion y tri thŷ cyfagos mewn modd negyddol. Rydym wedi cymryd camau i leddfu'r effeithiau negyddol ac rydym wedi cynnig iawndal llawn.
"Rydym wedi codi wal ddwbl yr uchder arferol i leihau lefelau sŵn ac rydym yn gosod y generaduron mor bell o'r tai ag sy'n bosib. I ddileu unrhyw risg o lygru, bydd yr holl ddeunydd sy'n cael ei dyllu allan o'r graig yn cael ei gludo i ffwrdd i safle arbenigol."
Mae'r cwmni wedi gwahodd y trigolion i gwrdd â nhw unwaith y mis tra bod y gwaith yn parhau.
Mewn datganiad, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi "ymweld â'r safle ac y bydd yn parhau i ymweld i oruchwylio'r sefyllfa".