Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-3 Barrow
- Cyhoeddwyd
Roedd 'na ergyd annisgwyl i obeithion Wrecsam o gael dyrchafiad awtomatig wrth iddynt golli gartref yn erbyn Barrow.
Fe wnaeth peniad Dan Jones roi'r ymwelwyr ar y blaen ar ôl tri munud, gyda Jacob Blyth a Lewis Hardcastle yn rhoi mantais o 3-0 i Barrow 3-0 ar yr egwyl.
Erbyn i Kieran Kennedy benio i'r rhwyd am gôl gysur yn yr ail hanner, roedd cefnogwyr Wrecsam eisoes wedi dechrau gadael y Cae Ras.
Golygai'r canlyniad fod Wrecsam yn gostwng i'r trydydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol.