AS Wrecsam yn gwadu celu honiadau o gam-drin plant
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Wrecsam, Ian Lucas, wedi gwadu awgrym ei fod wedi chwarae rhan mewn celu honiadau o gam-drin plant yn erbyn gwleidydd arall.
Ddydd Llun, fe glywodd Ymchwiliad Annibynnol ar Gam-drin Rhyw yn erbyn Plant (IICSA) i honiadau hanesyddol fod cyn-aelod seneddol Ceidwadol Caer, Peter Morrison wedi ei ddal gyda bachgen 15 oed ddiwedd yr wythdegau.
Bu farw Mr Morrison yn 1995.
Pwysleisiodd Mr Lucas: "Wnes i ddim cymryd rhan mewn ymgais i gelu a fuaswn i fyth yn gwneud."
'Dydio o ddim yn iawn'
Ymysg y rhai fu'n rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad oedd Jane Lee, cyn-ysgrifennydd cangen y Blaid Lafur yng Nghresffordd a'r Orsedd ger Wrecsam.
Fe ddisgrifiodd hi sgwrs gafodd hi gyda Chadeirydd y gangen ar y pryd, Ian Lucas, sydd bellach yn Aelod Seneddol Wrecsam.
Fe ddywedodd Ms Lee wrth yr ymchwiliad eu bod wedi trafod yr honiadau am Mr Morrison a honnodd fod Mr Lucas wedi awgrymu wrthi na ddylen nhw wneud yr honiadau hynny'n gyhoeddus.
Yn ôl Ms Lee, fe ddwedodd hi wrth Mr Lucas: "Ian, mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth am hyn. Dydy o ddim yn iawn."
Mi ddywedodd bod Mr Lucas wedi ymateb trwy ddweud: "Dwi wedi gwneud Jane. Dwi wedi ffonio rhywun yn uwch i fyny yn y blaid [Lafur] ac maen nhw wedi deud 'dydyn ni jyst ddim yn gwneud hynny'."
Aeth Ms Lee yn ei blaen "A dyma'r geiriau ddefnyddio o, 'Am bob un sydd ganddyn nhw, mae gennym ni un'."
"Ond y ffaith ei fod o'n dweud, am bob un pedoffil sydd ganddyn nhw [y Blaid Geidwadol], mae gennym ni un. Roedd hynny'n dryllio rhywun, achos y foment honno, ro'n i'n gwybod bod fy mhlaid i yn yr un sefyllfa."
'Heb gelu'
Ddoe, mewn ymateb fe ddywedodd Mr Lucas, "Roeddwn i'n aelod o'r Blaid Lafur yn lleol yn yr 1980au ond chefais i ddim cyswllt o gwbl gyda'r Blaid Lafur yn genedlaethol na'r Blaid Lafur yng Nghaer ynglŷn â Peter Morrison."
"Wnes i ddim cymryd rhan mewn ymgais i gelu a fuaswn i fyth yn gwneud."
"Rwyf mewn sioc bod Jane wedi awgrymu hynny. Roedd ei thystiolaeth yn cynnwys nifer o anghywirdebau ac alla' i ond cymryd ei bod hi wedi drysu ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd."
"Rwyf wedi dweud beth ddigwyddodd yn fy natganiad i'r ymchwiliad."
Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad yr IICSA, fe ddywedodd Mr Lucas: "Alla i ddim cofio unrhyw sgwrs ynglŷn â'r digwyddiad [gyda Mr Morrison] ond roeddwn yn disgwyl iddo gael ei adrodd yn y wasg yn lleol, ond ni ddigwyddodd hynny."
"Chefais i ddim sgwrs ynglŷn â'r mater gydag unrhyw un yn y Blaid Lafur y tu allan i grŵp y blaid yng Ngresffordd, Yr Orsedd a Morffordd ac ni feddyliais ragor am y peth ar y pryd."
"Chefais i ddim cyswllt o gwbl gyda'r Blaid Lafur yng Nghaer na'r Blaid Lafur yn genedlaethol ar y pryd. Ni thrafodais y digwyddiad gydag unrhyw un unai yn y Blaid Lafur yng Nghaer na'r Blaid Lafur yn genedlaethol, unai ar y pryd na wedi hynny."
"Does gen i ddim gwybodaeth bellach am Peter Morrison na'i ymddygiad y tu hwnt i'r hyn sydd wedi ei drafod yn gyhoeddus yn y blynyddoedd ers ei farwolaeth."