Nodi dyddiad achos ceisio llofruddio mewn ysgol uwchradd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Uwchradd EiriasFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yn Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn

Mae llanc 16 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio disgybl arall mewn ysgol uwchradd yn Sir Conwy.

Mae'r llanc hefyd wedi ei gyhuddo fod â chyllell yn ei feddiant yn Ysgol Uwchradd Eirias, Bae Colwyn ar 11 Chwefror.

Siaradodd y llanc, oedd yn 15 oed adeg yr ymosodiad honedig, ond i gadarnhau ei enw, a doedd dim ple yn ystod y gwrandawiad.

Mae disgwyl i'r achos ddechrau ar 12 Awst gan bara hyd at wythnos.

Cytunodd y Barnwr Mr Ustus Picken i ohirio cyflwyno ple tan wrandawiad pellach ar 22 Mai, a fydd hefyd yn ystyried materion eraill, gan gynnwys ffitrwydd i bledio.

Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn bod adroddiadau seiciatryddol yn cael eu comisiynu.

Mae'r llanc yn dychwelyd i'r ddalfa yn y cyfamser, ac fe bwysleisiodd y barnwr na ddylid cyhoeddi ei enw oherwydd ei oed.

Yn dilyn y digwyddad ym mis Chwefror, bu'n rhaid i ddisgybl gael triniaeth ysbyty at anafiadau a gafodd eu disgrifio ar y pryd fel rhai na fyddai'n newid ei fywyd.