Gwelliannau dros nos yn unig i'r A55 tan o leiaf Medi
- Cyhoeddwyd
Bydd dim angen cau lonydd yn ystod y dydd ar gyfer gwaith cynnal a chadw ar ran helaeth o'r A55 tan o leiaf fis Medi, medd Llywodraeth Cymru.
Dywed y Gweinidog Trafnidiaeth a Gweinidog y Gogledd, Ken Skates bod swyddogion yn gwneud pob ymdrech i sicrhau y bydd unrhyw waith "hanfodol" i brif ffordd y gogledd dros y misoedd nesaf yn "tarfu cyn lleied â phosibl ar deithwyr".
Ond wrth gyhoeddi bwriad i gadw holl lonydd y ffordd ddeuol rhwng Bangor ac ardal y ffin gyda Lloegr ar agor yn ystod y dydd eleni tan o leiaf mis Medi, mae'r llywodraeth yn pwysleisio y bydd gwaith brys "yn dal i gael ei wneud pryd bynnag a ble bynnag y bydd ei angen".
Mae teithwyr ac ymwelwyr wedi cwyno yn y gorffennol bod gwelliannau i'r ffordd ddeuol yn ystod misoedd prysuraf y flwyddyn wedi achosi tagfeydd difrifol.
Y tro diwethaf y bu'n rhaid cau rhai lonydd oedd er mwyn atgyweirio pont yn Llanddulas ger ochor orllewinol Cyffordd 23.
Cyn y gwaith hwnnw, yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd 532 diwrnod wedi mynd heibio heb orfod cau lonydd yn ystod y dydd ar yr A55 rhwng Cyffordd 11 ar gyrion Bangor a Lloegr.
Dywedodd Mr Skates: "Rwy'n llwyr ymwybodol o bwysigrwydd ffordd yr A55 i Ogledd Cymru ac yn wir i bobl sy'n teithio i fyny ac i lawr Cymru ac o amgylch y DU, Iwerddon ac Ewrop... rydym wedi buddsoddi'n sylweddol ynddi er mwyn ei gwneud yn ffordd fwy diogel a chydnerth ac er mwyn cynnig profiad teithio positif.
"Weithiau nid oes modd osgoi gwneud gwaith yn ystod y dydd ond mae newyddion heddiw yn dangos ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod unrhyw waith sydd ar y gweill ar yr A55 yn cael ei gwblhau dros nos neu oddi tano lonydd deuol cul lle y bo'n bosibl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2016