Carwyn Jones: 'Ma' bywyd tamed bach mwy hamddenol nag o'r blaen'

  • Cyhoeddwyd

Mae tri mis wedi bod bellach ers i Carwyn Jones roi'r gorau i'w swydd fel Prif Weinidog Cymru - swydd yr oedd wedi ei dal ers naw mlynedd.

Ac yntau wedi bod yn Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr ers 1999, mae wedi bod yn llygad y cyhoedd ers blynyddoedd maith bellach, ond pa mor dda ydyn ni'n ei adnabod mewn gwirionedd?

Bu'n sgwrsio â Shân Cothi ar Bore Cothi ar BBC Radio Cymru am sut mae bywyd ers gorffen ei gyfnod fel Prif Weinidog, ei atgasedd tuag at corduroy a phwysigrwydd grefi da...

Carwyn Jones yn trafod...

... bod yn Brif Weinidog

"Unwaith y'ch chi wedi bod yn rhan o'r byd gwleidyddol, chi wastad yn meddwl mewn ffordd wleidyddol. Ond 'dyw e ddim cweit r'un peth achos mae mwy o ryddid 'da fi nawr i weud pethau a s'mo'r pwysau yna.

"Wrth edrych nôl, mae'r ffaith mod i wedi gwneud naw mlynedd yn y swydd fel Prif Weinidog... fi ffili deall sut wnes i e, achos y pwysau ac mae'n mynd yn waeth...

"Gyda peiriannau electroneg fel iPads ac yn y blaen, chi wastad ar gael. Nawr mae pobl mo'yn ateb yn syth, ac achos hynny mae popeth wedi mynd yn gyflymach."

... blew wyneb

"Ar ôl gorffen bod yn wleidydd, 'wi'n edrych 'mlaen i ngwallt i droi'n frown unwaith 'to! Dyfais i farf cyn y Nadolig - dyna beth yw'r ffasiwn. O'n i'n meddwl byse fe'n lliw salt and pepper... na, odd e'n wyn. Ond o'dd y mwstash yn frown!

"O'dd pobl yn meddwl mod i'n lliwio'r mwstash, ond wir, dyna oedd lliw fy ngwallt i ar un adeg! O'dd fy ngwraig i yn ei licio fe, ond o'n i'n edrych fel Siôn Corn. Roedd rhaid ei siafio..."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r barf gwyn a'r mwstash brown wedi hen ddiflannu

... acen Brynaman

"Es i Ysgol Brynteg, Pen-y-bont, sy'n ysgol Saesneg. Roedd fy rhieni yn dod o Frynaman, ac wedi symud i'r ardal i ddysgu.

"Es i gyda'n mam i'r ysgol Saesneg lle o'dd hi'n dysgu, a safes i yna ac yn yr ysgolion Saesneg. A dyna sut dwi wedi cadw fy acen - mae pobl yn meddwl mod i wedi byw ym Mrynaman ond nes i 'rioed gael acen yr ysgolion Cymraeg achos es i ddim 'na.

"Yr unig Gymraeg o'n i'n clywed o'dd Cymraeg y teulu, Cymraeg Dyffryn Aman. Mae'r acen wedi sefyll - rwy'n dal i ddweud 'colfen' (coeden), 'oifad' (nofio), 'taffish' (loshin).

"'Cofia whilia'r Gwmrâg!', fel o'dd mam-gu yn ei ddweud."

... pwysigrwydd grefi da

"Ma' ngwraig i Lisa o Iwerddon ac o'dd hi ffili deall diwylliant grefi yng Nghymru - Bisto oedd grefi iddyn nhw. Dydd Nadolig, byddai'n fam, mam-gu a'n fodryb fel gwrachod Macbeth dros grochan o grefi.

"Os fyddai'r grefi'n cael ei 'strywo, man a man taflu'r cinio yn y bin! Y grefi oedd canol y pryd bwyd - calon y cig. Hollbwysig. 'Se rhywun yn rhoi grefi'n fam i mi nawr, bydden i'n ei 'nabod e'n syth. 'Smo fi na Lisa wedi cweit gallu ei ga'l e'n iawn."

Ffynhonnell y llun, Lisa Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa a Carwyn yn parhau ar eu hymgais i ail-greu grefi hudolus ei fam

... ffasiwn

"Ma' teimlad corduroy yn mynd â fi nôl i'r 70au. Dwi'n cofio gorfod gwisgo cords brown, crys brown a gwyrdd, a siaced 'da'r lapels ar y sgwydde'. Os oedden ni'n mynd i siopa ym Mhen-y-bont, o'n i'n cael gwisgo jîns, ond os oedden ni'n mynd i Abertawe neu Gaerdydd... o'dd nhad mewn siwt! O'dd rhaid taclu lan yn Abertawe, yn lle bod pobl Brynaman yn eich gweld chi!

"O'n i'n ei gasáu e. A gwisgo siwmperi o wlân Shetland a dim byd dano fe! Beth oedd yn bod ar bobl yn y 70au?!

"Dwi'n hoffi dillad, ond unwaith ti'n troi'n 50, does dim diddordeb gan gwmnïau dillad ynddot ti o gwbl! Dwi'n ei ffeindio'n anodd iawn i brynu dillad, achos maen nhw isie gwerthu i bobl ifanc. Unwaith ti'n cyrraedd rhyw oed, mae'r cardigans brown a'r slacs yn dod mas!"

... siarad (nid canu)

"'Wi'n joio siarad o flaen llawer o bobl. Ddysges i o'r capel yng nghwrdd y plant - o'dd rhaid mynd lan i adrodd adnod, a doedd dim dewis 'da ti. Fy nhad ddysgodd fi. Well 'da fi fod ar y llwyfan yn siarad, nag yn y dorf.

"Odw, rwy'n hyderus, ond wy'n cofio'r peth gwaetha' ddigwyddodd i mi... O'n i yn Seland Newydd yn 2011 ar gyfer Cwpan y Byd. Es i mas i gwrdd â chymuned Māori, ac yn ystod y seremoni, ges i fy nghyfarch a fy ngwahodd i ymateb... ar gân!

"Gorffes i ganu Ar Lan y Môr. Fi'n gallu canu yn ocê ond 'smo fi'n mynd i ennill yn yr Eisteddfod! O'n i'n rhacs. Canu - na. Siarad - grêt!"

Ffynhonnell y llun, Shân Cothi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carwyn gyfle i hel atgofion gyda Shân Cothi

... ei obeithion

"Ma' bywyd tamed bach mwy hamddenol nag o'r blaen. Mae dal yn fishi ond mae'n neis i ddim cael y pwyse. 'Nes i jobyn am naw mlynedd o'n i wedi mo'yn gwneud erioed. Ond mae'n rhaid symud 'mlaen rhywbryd. A dwi nawr yn gallu siarad yn wahanol - pan ti'n Brif Weinidog mae'n rhaid i ti gael y persona hyn, yn eitha' difrifol y rhan fwyaf o'r amser.

"Nawr, hoffen i gael mwy o amser i wneud pethau a jest mwynhau 'chydig bach mwy o fywyd. Rhaid i fi ffeindio ffordd o wneud bywoliaeth unwaith fydda i'n gadael y Cynulliad mewn dwy flynedd, ond mae lot o gyfleoedd mas 'na. Gawn ni weld."